Gall pobl ar incwm isel sydd wedi cael coronafeirws neu sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru wneud cais yn awr am daliad o £500.
Mae’r cynllun taliad hunanynysu newydd wedi’i gynllunio i annog pobl i aros gartref drwy ddileu unrhyw rwystrau ariannol i hunanynysu.
Mae’r cynllun ar gael i unrhyw un sy’n cael Credyd Cynhwysol a budd-daliadau penodol eraill, ac sy’n gorfod hunanynysu oherwydd bod ganddynt coronafeirws neu oherwydd eu bod wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan y gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu.
Bydd elfen ddewisol hefyd ar gyfer y rhai sydd ddim yn bodloni’r meini prawf ond sy’n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i orfod hunanynysu.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Bydd y cynllun hunanynysu’n helpu unrhyw un sy’n wynebu’r dewis o aros gartref a pheidio â gallu bwydo eu teulu, neu fynd i’r gwaith ac o bosib lledaenu coronafeirws. Dyma benderfyniad anodd na ddylai unrhyw un orfod ei wneud.
“Rhaid inni gydweithio i gadw coronafeirws dan reolaeth yng Nghymru. Mae hyn yn golygu aros gartref a hunanynysu os oes gennym symptomau coronafeirws neu os ydyn ni wedi cael cyfarwyddyd i wneud hynny oherwydd ein bod wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd â’r feirws.
“Ein hamddiffyniad gorau yn erbyn y feirws yw ein gilydd. Bydd y taliad hwn yn helpu pawb i chwarae eu rhan yn yr ymdrech genedlaethol i ymateb i’r pandemig.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
“Mae Cynghorau yng Nghymru wedi bod yn flaenllaw wrth gefnogi preswylwyr a busnesau yn ystod y pandemig hwn.”
“Mae sefydlu’r cynlluniau hyn ar fyr rybudd wedi bod yn heriol felly mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i’w darparu. Rydym yn falch y bydd awdurdodau lleol yn cael cyllid dewisol i’w galluogi i gynorthwyo pobl nad ydynt yn gymwys ar gyfer y prif gynllun.”
“Mae awdurdodau lleol wedi bod yn allweddol yn yr ymateb i’r pandemig ac yn y sefyllfa orau i ddeall yr heriau a wynebir gan ein cymunedau lleol.”
Mae cynllun newydd hefyd wedi’i gyflwyno ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol i roi taliad ychwanegol at eu tâl salwch statudol hyd at lefel eu cyflog arferol os oes rhaid iddynt gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith oherwydd coronafeirws, neu os ydynt wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â’r feirws.
Mae’r ddau gynllun yn cael eu hariannu gan £32m gan Lywodraeth Cymru.
Gall pobl wneud cais am y taliad hunanynysu ar wefan eu hawdurdod lleol o heddiw (dydd Llun 16 Tachwedd) a bydd y taliadau’n cael eu hôl-ddyddio i 23 Hydref.