Yr hyn yr ydym ni’n ei wneud
Mae Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Cymru yn cynghori ar breifatrwydd gwybodaeth iechyd a gofal cymdeithasol ac ar rannu’r wybodaeth honno.
Mae Bwrdd Llywodraethu Gwybodaeth Cymru yn helpu’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus i gynnal cydbwysedd rhwng:
- cadw gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol
- annog rhannu gwybodaeth os yw hynny’n briodol er mwyn sicrhau gofal gwell a mwy diogel
Mae’n fforwm annibynnol anstatudol. Cafodd ei sefydlu gan Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru.