Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi croesawu’r newyddion y gallai brechlyn COVID-19 fod yn barod eleni, ond mae wedi rhybuddio “mai dyddiau cynnar iawn yw’r rhain”.
Dywedodd Dr Frank Atherton y gallai fod yn nes at ddiwedd y flwyddyn nesaf cyn y bydd y brechlyn ar gael i’r holl boblogaeth gymwys, ac yn y cyfamser, mae’n hanfodol bod pawb yn parhau i gadw pellter cymdeithasol, cyfyngu ar ymgynnull dan do, gwisgo gorchuddion wyneb lle y bo’n briodol a chynnal arferion hylendid da wrth beswch ac o ran golchi dwylo.
Dyma gam pwysig ac mae’n gamp wyddonol ryfeddol. Ond mae angen data llawn ar ddiogelwch cyn y gall y brechlyn gael ei gymeradwyo i’w ddefnyddio”, dywedodd.
Mae gennym gynlluniau datblygedig i gyflwyno unrhyw frechlyn sydd wedi’i gymeradwyo i grwpiau blaenoriaeth yng Nghymru, ond yn y cyfamser, mae angen i bob un ohonom barhau i wneud popeth posibl i atal y coronafeirws rhag lledaenu.
Mae cyfyngu ar ymgynnull dan do, cadw pellter cymdeithasol, a gwisgo gorchudd wyneb lle y bo angen, yn ogystal â golchi dwylo’n rheolaidd yn gamau hollbwysig os ydym am atal y feirws rhag lledaenu yng Nghymru. Mae angen i bawb barhau i ‘gadw’n ddiogel’ a diogelu eich hun ac eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU a’r gwledydd datganoledig eraill i baratoi ar gyfer y brechlynnau sy’n cael eu datblygu.
Dywedodd Dr Atherton:
Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer brechlyn COVID-19 posibl yng Nghymru yn mynd rhagddo’n dda. Mae hynny’n cynnwys trefnu’r logisteg ar gyfer cludo’r brechlyn, chwilio am leoliadau addas ar gyfer rhoi’r brechlynnau, a sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol ar gael, ac wedi’u hyfforddi i roi’r brechlyn.
Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a phreswylwyr a staff cartrefi gofal sydd wedi cael blaenoriaeth i dderbyn y brechlyn gyntaf, ac yna bydd yn cael ei gyflwyno i bobl hŷn o wahanol grwpiau oedran o’r flwyddyn nesaf ymlaen.
Ond mae’n debygol o fod yn amser hir tan bydd y boblogaeth gyfan yn gallu cael ei brechu, felly tan hynny, dylai pob un ohonom wneud popeth posibl i atal y feirws rhag lledaenu.