Neidio i'r prif gynnwy
Margaret Ogunbanwo

Margaret Ogunbanwo yw Prif Swyddog Gweithredol Maggie’s An African Twist to Your Everyday Dish.

Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Maggie's An African Twist to Your Everyday Dish.

Graddiodd Margaret o Brifysgol Lagos yn Nigeria gyda BSc Anrh mewn Microbioleg.  Dilynodd gwrs TD mewn rheoli Lletygarwch, yn ogystal â TAR yn ei Harbenigedd Bwyd.

Bu’n gweithio mewn sawl rôl reoli o fewn a thu allan i’r diwydiant bwyd.  Yna aeth ymlaen i sefydlu a rhedeg ei busnesau ei hun.

Ers hynny mae wedi ymwneud â'r busnes arlwyo a hyfforddi. Mae wedi sefydlu, ac wedi rhedeg, Maggie's Exotic Foods ers 1997. Mae ganddi brofiad mewn:

  • mânwerthu;
  • dosbarthu;
  • hyfforddiant ar gyfer Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH);
  • logisteg; ac
  • arlwyo bwyd ethnig

Bu Margaret yn ymwneud â helpu, cefnogi a datblygu busnesau a phrosiectau bach, yn enwedig gyda'r gymuned ddu a lleiafrifoedd ethnig.

Ers symud i Ogledd Cymru, mae wedi rhedeg siop arlwyo.  Sefydlodd Margaret Maggie's An African Twist to Your Everyday Dish. Hi yw’r prif swyddog gweithredol ar hyn o bryd.

Mae Margaret wedi dysgu siarad Cymraeg a hi hefyd yw awdur "100 Things I Wish My Mother Had Told Me".