Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (“y Bil”) yn darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, llywodraethiant a pherfformiad.
Mae Rhan 6 o'r Bil yn ymwneud â pherfformiad a llywodraethiant prif gynghorau, gan ddarparu ar gyfer cyfundrefn perfformiad newydd yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygu gan gymheiriaid.
Heddiw, rwyf yn lansio ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft i hwyluso gweithredu'r gyfundrefn newydd ac i gefnogi prif gynghorau wrth gyflawni eu dyletswyddau o dan Ran 6 o'r Ddeddf. Fy mwriad wrth ymgynghori ar y canllawiau hyn cyn i'r Bil gael y Cydsyniad Brenhinol yw sicrhau bod y canllawiau terfynol yn eu lle pan ddaw'r darpariaethau o dan Ran 6 i rym.
Mae'r canllawiau statudol drafft wedi'u cyd-ddatblygu gyda llywodraeth leol ac ymgysylltwyd yn helaeth â rhanddeiliaid allweddol. Rydym am sicrhau bod hwn yn rhywbeth gwerthfawr o safbwynt llywodraeth leol a’i fod yn darparu cyfle ystyrlon i gryfhau cynghorau’n barhaus.
Neges glir yn ystod y cyfnod cydgynhyrchu hwn fu bod llywodraeth leol am gael hyblygrwydd i bennu ei hymagwedd ei hun at hunanasesu ac asesiad gan banel, wedi'i dylunio i gyd-fynd ag amgylchiadau lleol a strwythurau corfforaethol, ac yn seiliedig ar arferion gorau. Mewn ymateb, mae'r canllawiau drafft wedi'u datblygu mewn ffordd sy'n ceisio cefnogi prif gynghorau i ddeall a chymhwyso'r dyletswyddau mewn ffordd sy'n briodol i'w hamgylchiadau eu hunain, gan arddel ymagwedd alluogi yn hytrach na bod yn rhy ragnodol.
Mae'r ddogfen ymgynghori a'r canllawiau statudol drafft i'w gweld yn y ddolen ganlynol:
https://llyw.cymru/perfformiad-llywodraethiant-awdurdodau-lleol-canllawiau-drafft
Mae'r ymgynghoriad yn para tan 3 Chwefror 2021, ac rwyf yn edrych ymlaen at ystyried adborth gan randdeiliaid a phartïon eraill â buddiant.