Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Roeddwn wrth fy modd yn ddiweddar o fod wedi gallu llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth â Sefydliad Iechyd y Byd i ffurfioli’r cysylltiadau cadarnhaol sy’n datblygu rhyngom, gan gadarnhau bod Cymru yn wlad sy’n edrych tuag allan ac at y dyfodol, ac sydd â llawer i’w gyfrannu at yr agenda tegwch iechyd yn Ewrop a thu hwnt.
Mae’r Memorandwm yn nodi meysydd allweddol lle y gellid cydweithredu i gyflymu ein taith tuag at roi cyfle i bawb gael bywyd iach a ffyniannus, drwy wella tegwch iechyd a galluogi buddsoddiadau ac atebion cynaliadwy a fydd yn arwain at ffyniant i genedlaethau heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’n cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Ffyniant i Bawb, a’r cynllun Cymru Iachach, gan gyfrannu at yr ymgyrch i wneud Cymru yn wlad iachach, fwy cyfartal, a ffyniannus.
Nod y Memorandwm yw cryfhau rôl Cymru yng ngwaith y Sefydliad yn Rhanbarth Ewrop ac yn fyd-eang, drwy ddatblygu a rhannu atebion ac arbenigedd, a chydweithredu o fewn ei rwydweithiau, a chyda fforymau, partneriaid, Aelod-wladwriaethau, tiriogaethau, ac ardaloedd.
Fel rhan o’r Memorandwm, Cymru fydd y wlad gyntaf i sefydlu Adroddiad ar Statws Tegwch Iechyd. Nod yr adroddiad fydd asesu annhegwch iechyd a’r hyn sy’n ei achosi, yn ogystal â helpu i lywio polisïau perthnasol, atebion o ran pa gamau i’w cymryd, a sut i flaenoriaethu buddsoddiadau yng Nghymru.
Roedd yn bleser cael y cyfle yn ddiweddar i gyfarfod â’n cyfeillion yn Sefydliad Iechyd y Byd i drafod y blaenoriaethau a’r dulliau cydweithredu ar gyfer cydweithio o dan y Memorandwm, gan ystyried y materion hyn yng nghyd-destun yr ymateb i’r pandemig COVID-19 a’r angen i sicrhau adferiad cynaliadwy ohono.
Mae fy swyddogion yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i symud y maes gwaith cyffrous hwn yn ei flaen, a byddaf yn rhoi’r diweddaraf am hynt y gwaith hwn i’r Aelodau maes o law.