Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, a darparu gwybodaeth am deithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.
Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau hyn i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth am deithwyr.
Ers hynny, mae’r Rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.
Ddoe, derbyniais lythyr gan Grant Schapps, Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth Llywodraeth y DU, yn rhoi gwybod i mi am adroddiadau gan awdurdodau iechyd Denmarc ynghylch achosion eang o SARS-CoV-2 ar ffermydd minc, a bod amrywiolyn minc o’r feirws wedi lledaenu i'r gymuned leol. Nodwyd o leiaf saith mwtaniad unigryw i’r feirws mewn minc. Mae un o'r amrywiolion firysau hyn, gyda phedwar newid yn y protein sbigyn, wedi'i ganfod ar bum fferm minc ac mewn 12 o bobl yn y gymuned gyfagos.
Cyfarfu'r pedwar Prif Swyddog Meddygol neithiwr i drafod y datblygiad hwn, a phenderfynwyd y dylid cymryd camau i dynnu Denmarc o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau eithriedig o 04:00am heddiw, dydd Gwener 6 Tachwedd. Daeth rheoliadau a oedd yn gweithredu'r newid hwnnw i rym am 04:00am y bore yma. Bydd yn ofynnol i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o Ddenmarc ar ôl yr amser hwn ddilyn yr gofynion hunanynysu a'r gofynion eraill a nodir yn y Rheoliadau.
Mae hyn yn ychwanegol at y penderfyniad i dynnu'r Almaen a Sweden o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau eithriedig, a ddaw i rym am 04:00am ddydd Sadwrn 7 Tachwedd fel y nodir yn y Datganiad Ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddoe.