Mae cynllun grant cymorth i fusnesau Llywodraeth Cymru wedi rhoi help hanfodol i filoedd o elusennau bach yn y sectorau adwerthu, hamdden a lletygarwch, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans.
Ers ei gyflwyno ym mis Mai, mae’r cynllun wedi rhoi grantiau o £10k i filoedd o siopau, safleoedd chwaraeon a chanolfannau cymuned sy’n cael eu rhedeg gan elusennau ledled Cymru i’w helpu i wynebu heriau ariannol argyfwng y coronafeirws.
Clwb Rygbi Abertyleri, clwb cymunedol ym Mlaenau Gwent, yw un o’r nifer fawr o glybiau sydd wedi cael yr help ariannol mawr ei angen hwn.
Ar ddechrau’r cyfnod clo, roedd Clwb Rygbi Abertyleri’n wynebu dyfodol bregus iawn. Gyda’r clwb ar gau a ffioedd wedi’u rhewi, sychodd incwm y clwb dros nos, gan eu gadael â’r pen tost o orfod talu biliau a chostau. Ond diolch i gynllun grantiau Llywodraeth Cymru, llwyddodd y clwb i oroesi’r cyfnod clo ac y mae nawr yn disgwyl ymlaen at ddyfodol llawer mwy sefydlog a llewyrchus.
Dywedodd Rhys Davies, ysgrifennydd Clwb Rygbi Abertyleri:
Allwn i ddim diolch digon i Lywodraeth Cymru am eu help trwy’r cynllun grant cymorth i fusnesau. Cyn clywed am yr help oedd ar gael, roedden ni’n wynebu penderfyniadau anodd ynghylch dyfodol y clwb.
Mae’r grant wedi bod yn achubiaeth i ni, gan roi amser inni ystyried a llunio cynlluniau i droi’r clwb yn gyfleuster poblogaidd sydd wrth galon ein cymuned, yn glwb y gallwn fod yn falch ohono.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Rwy’n falch iawn bod ein cynllun wedi gallu rhoi arian sydd cymaint o’i angen ar elusennau a chlybiau chwaraeon i’w helpu i ysgwyddo’r pwysau ariannol y maen nhw’n ei wynebu yn sgil argyfwng y coronafeirws.
“Rydyn ni’n cydnabod cyfraniad anferth y sector er lles Cymru, ei phobl a’i chymunedau ac rwy’n falch o allu ei gefnogi pan fo’r angen am y gefnogaeth honno ar ei fwyaf.