Adroddiad, Dogfennu
Atodiad 2: Gwybodaeth Gefndir am y Panel
Adolygiad o berfformiad y Llyfrgell, ei threfniadau llywodraethu ac effeithiolrwydd ei gwasanaethau.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 88 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cadeirydd
Aled Eirug
- Aelod o Fwrdd Cynnwys OFCOM. Uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe. Bu'n Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru. Mae ei swyddogaeth yn gynghorydd cyfansoddiadol cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2007-2011) ac yn gynghorydd polisi i Lywodraeth Cymru (2013-2014) yn rhoi darlun unigryw iddo ar sut y mae polisi cyhoeddus yn gweithio yng Nghymru, ac mae ei brofiad yn gadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru (2011-2015) a Chyngor Ffoaduriaid Cymru (2006-2012) yn rhoi cyd-destun rhyngwladol i'w waith.
Aelodau
Rheon Tomos
- Ar hyn o bryd, mae'n aelod o Bwyllgor Archwilio Amgueddfa Cymru ac yn Gyfarwyddwr National Theatre Wales (Productions) Ltd. a Gŵyl Hanes Cymru i Blant Cyf. Mae’n Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ac yn Is-gadeirydd ac Ymddiriedolwr Urdd Gobaith Cymru Cyf. Arferai fod yn gyfarwyddwr anweithredol gydag ESTYN, Cymwysterau Cymru ac S4C ac yn aelod o Bwyllgor Archwilio Comisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd y pwyllgor hwnnw.
Emyr Williams
- Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, corff a noddir gan Lywodraeth Cymru.
Efa Gruffudd Jones
- Bu’n gweithio yn y sector cyhoeddus i Fwrdd yr Iaith Gymraeg a Chyngor Celfyddydau Cymru cyn ymuno ag Urdd Gobaith Cymru, un o brif elusennau Cymru. Daeth yn Brif Weithredwr yn 2004. Yn 2016, penodwyd Efa yn Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y corff y rhoddwyd iddo’r gwaith gan Lywodraeth Cymru o ddarparu arweiniad strategol i'r sector Cymraeg i Oedolion. Ar hyn o bryd mae Efa yn Gadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru ac yn aelod o Fwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru.