Bathodynnau Glas: pwy sy’n gymwys?
Pryd rydych chi’n gymwys am Fathodyn Glas.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
I gael Bathodyn Glas, rhaid bodloni’r amodau. Bydd y bathodyn yn rhoi mwy o annibyniaeth i bobl trwy eu helpu i gael y gorau o wasanaethau a chyfleusterau. Gallant fod yn yrrwr neu’n deithiwr.
Nid oes rhaid i berson yrru er mwyn cael gwneud cais am Fathodyn Glas. Ar gyfer unigolion mae’r Bathodyn a gall gael ei ddefnyddio mewn unrhyw gar y bydd yr unigolyn yn teithio ynddo.
Gall sefydliad fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas os yw’n gofalu am bobl anabl neu’n cludo pobl anabl fyddai’n gymwys i gael Bathodyn Glas eu hunain.
Yng Nghymru, gall unigolyn yn un o’r categorïau canlynol fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas:
Cymwys yn awtomatig
Gall unigolyn fod yn gymwys am fathodyn heb asesiad os yw’n derbyn un o’r Budd-daliadau Anabledd canlynol neu os oes ganddynt nam ar eu golwg.
Budd-dal anabledd neu nam | Tystiolaeth foddhaol |
---|---|
|
lythyr dyfarnu gwreiddiol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer un o’r Budd-daliadau hyn.
|
|
Llythyr dyfarnu gwreiddiol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.
|
|
Un o’r canlynol -
|
Cymwys yn ôl disgresiwn
Gall amgylchiadau penodol wneud unigolyn yn gymwys er nad yw’n derbyn y budd-daliadau a restrir. Sef:
Cyflwr, nam neu anabledd | Tystiolaeth foddhaol |
---|---|
Methu cerdded o gwbl. Anhawster mawr i gerdded. Nam sylweddol ar symudedd
|
Bydd angen mwy o wybodaeth ar yr awdurdod lleol i gefnogi hawliad. Dylai ymgeiswyr siarad â’r awdurdod lleol am hyn yn gyntaf a pheidio â gofyn am lythyr gan y meddyg teulu. |
Plentyn o dan dair blwydd oed sydd â chyflwr meddygol sy’n golygu:
|
Llythyr gan bediatregydd. |
Anabledd difrifol yn y ddwy fraich
|
Trwydded yrru sydd â chôd 40 (llyw wedi’i addasu) neu 79 (cerbydau â nodweddion arbennig). |
Nam Gwybyddol Difrifol
|
Un o’r canlynol -
|
Salwch angheuol sy’n cyfyngu’n sylweddol ar symudedd |
Ffurflen SR1 neu lythyr ategol oddi wrth nyrs Macmillan neu Tenovus. |
Cymwys dros dro
Caiff unigolyn wneud cais am fathodyn 12 mis dros dro os yw’n aros am driniaeth ar gyfer salwch neu anaf difrifol neu’n gwella ar ôl salwch neu anaf difrifol. Dyma rai enghreifftiau:
Cyflwr, salwch neu anaf | Tystiolaeth foddhaol |
---|---|
Gwella ar ôl torri asgwrn coes yn ddifrifol ac yn defnyddio fframiau a phiniau, am fwy na blwyddyn Aros am driniaeth i gael e.e. clun, pen-glin newydd, neu’n gwella ar ôl cael triniaeth o’r fath sy’n cyfyngu’n ddifrifol ar symudedd Gwella ar ôl strôc neu anaf pen sy’n effeithio ar ei symudedd Gwella ar ôl trawma i’r cefn sy’n effeithio ar symudedd Yng nghanol cael triniaeth feddygol e.e. ar gyfer canser, sy’n effeithio ar ei symudedd |
Tystiolaeth Foddhaol: Llythyr oddi wrth weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd sy’n rhoi triniaeth. Yn gyffredinol bydd yr awdurdod lleol yn cyfeirio ymgeisydd at gael asesiad annibynnol i weld a yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer bathodyn dros dro. |
Nid yw’r rhesymau isod ar eu pen eu hunain yn ddigon i gael Bathodyn Glas:
- Beichiogrwydd
- Lwfans Byw i’r Anabl - Cyfradd Is
- Lwfans Gweini
- Anabledd mewn un fraich
- Problemau â’r bledren neu’r coluddyn megis clefyd Crohn neu Colitis
- Cyflyrau dros dro megis torri neu droi braich neu goes lle mae angen ei roi mewn cast am wythnosau neu fisoedd
- Triniaeth ar gyfer salwch neu anaf nad yw’n cael effaith fawr ar symudedd
Sut i wneud cais i gael Bathodyn Glas
Gallwch wneud cais uniongyrchol drwy’ch awdurdod lleol. Mae gan wefan eich awdurdod lleol fanylion sut i wneud cais.
Gallwch hefyd wneud cais ar-lein yn GOV.UK: Gwneud cais am Fathodyn Glas. Bydd eich cais yna’n cael ei anfon at eich awdurdod lleol i’w brosesu.
Pan fydd cais yn cael ei wrthod
Mae penderfyniad yr awdurdod lleol ar gymhwysedd yn derfynol. Nid oes proses apelio. Fodd bynnag, os daw tystiolaeth ychwanegol, gall ymgeisydd ofyn i’r awdurdod lleol ailystyried y cais.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bŵer i ymyrryd yn y broses benderfynu.
Rhagor o wybodaeth
Am gopïau o'r daflen hon anfonwch e-bost atom neu ffoniwch 0300 0604400.