Cylch gwaith blynyddol 2020 i 2021
Yr adolygiadau a'r cyngor sydd eu hangen arnom gan Estyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Y cyngor penodol sy’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru yn 2020 i 2021
Mae'r ddogfen hon yn amlinellu cylch gwaith blynyddol Estyn ar gyfer 2020 i 2021 gan y Gweinidog dros Addysg. Mae’r cylch gwaith blynyddol yn ychwanegol at waith craidd Estyn.
1a) Parhau i roi cyngor, adroddiadau manwl a, lle bo'n briodol, adnoddau eraill sy’n defnyddio tystiolaeth a gesglir yn ystod ymweliadau ymgysylltu
Yn ystod 2020 i 2021, bydd Estyn yn cymryd saib o’i chyfres arferol o adroddiadau thematig ac yn canolbwyntio ar helpu’r system addysg i ddod dros pandemig COVID-19.
Bydd Estyn hefyd yn gohirio rhai arolygiadau o ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion yn ystod blwyddyn academaidd 2020 i 2021. Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020 a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi hwyluso hyn. Bydd y rheoliadau yn dod i rym ar 1 Medi 2020 ac yn ymestyn y cylch arolygu presennol o 7 i 8 mlynedd. Bwriad gohirio rhai arolygiadau oedd ei gwneud yn bosibl i arolygwyr gefnogi’r cwricwlwm drwy ymweliadau ymgysylltu. Fodd bynnag, yn sgil pandemig COVID-19, caiff yr ymweliadau eu defnyddio i gychwyn i helpu ysgolion i ddod dros y sefyllfa bresennol.
Bydd Estyn yn cofnodi’r dysgu a gyflawnwyd ac yn darparu cyngor annibynnol a thystiolaeth er mwyn helpu’r gwaith cynllunio cychwynnol ar gyfer parhau â’r broses ddysgu mewn ysgolion a sectorau ôl-16, ynghyd â phenderfyniadau i gefnogi’r system addysg wrth iddi ddod dros pandemig COVID-19.
Er mwyn darparu cyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth, bydd yr arolygwyr yn cofnodi adborth darparwyr ac yn yn ymweld â nhw at ddibenion ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar gofnodi’r dysgu a gyflawnwyd a thystiolaeth ynghylch yr heriau sy’n parhau o ran gweithwyr proffesiynol, dysgwyr a rhieni.
Yn benodol, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i Estyn ddarparu cyngor ar draws y sectorau sydd o fewn ei gylch gwaith mewn perthynas ag:
- Ymgysylltu â dysgwyr, gan gynnwys strategaethau effeithiol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran
- Y cwricwlwm cartref a’r broses bontio i’r cwricwlwm yn lleoliadau pob darparwr addysg yn dilyn yr argyfwng presennol
- Cymorth i ddysgwyr, rhieni a gweithwyr proffesiynol, yn enwedig mewn perthynas â lles emosiynol
- Cyfleoedd cyfartal i ddysgu a chymorth
- Cymorth wrth bontio i addysg gynradd ac uwchradd, ac i addysg a hyfforddiant ôl-16
- Dysgu mewn darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol a gomisiynir gan awdurdodau lleol (ee ysgolion arbennig annibynnol, colegau, lleoliadau hyfforddiant, y cartref)
Gellir rhoi’r cyngor hwn drwy weithgorau, cyngor ysgrifenedig neu ganllawiau neu adroddiadau a gyhoeddir.
Yn dibynnu ar y sefyllfa, wrth i bethau ddatblygu, o ran y system addysg, bydd Estyn yn penderfynu, gan ymgynghori â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, p’un a fydd yna adeg briodol i ddechrau canolbwyntio yn yr ymweliadau ymgysylltu ar baratoadau i weithredu Cwricwlwm i Gymru.
Yn ystod tymor yr hydref 2020 i 2021, bydd Estyn yn cynnal adolygiad thematig o ddulliau awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o gefnogi dysgu a dysgwyr sy’n agored i niwed yn ystod pandemig COVID-19. Bydd yr adolygiad yn gwerthuso effeithiolrwydd, dylanwad ac effaith dulliau adrannau addysg awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol o gefnogi ysgolion, cyrff llywodraethu a dysgwyr yn ystod y cyfnodau dysgu o bell a phan ailagorwyd ysgolion yn rhannol, ac yn llawn o fis Medi 2020.
Bydd Estyn hefyd yn cynnal adolygiadau thematig o’r dulliau o ddysgu cyfunol, o ymgysylltu â dysgwyr a darparu cymorth iechyd meddwl a lles mewn colegau addysg bellach, lleoliadau darparwyr dysgu seiliedig ar waith a phartneriaethau lleoliadau dysgu oedolion yn y gymuned yn ystod pandemig COVID-19. Bydd yr adolygiadau yn tynnu sylw at arferion sy’n gweithio’n dda yn ogystal ag elfennau y mae angen eu datblygu ymhellach, gan dynnu ar sgyrsiau â lleoliadau ôl-16 yn nhymor yr hydref a gwaith ymgysylltu pellach gyda sampl o ddarparwyr ar ddechrau tymor y gwanwyn 2021.
1b) Parhad y gwaith ar yr adnodd gwerthuso a gwella cenedlaethol
Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar yr adnodd gwerthuso a gwella cenedlaethol.
1c) Parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol i gefnogi ysgolion sy’n destun pryder
Bydd Estyn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i dreialu dulliau newydd o gefnogi ysgolion sy’n destun pryder.
1d) Meysydd polisi y gallai Llywodraeth Cymru geisio cyngor neu gymorth yn eu cylch, a hynny drwy gyfrannu at waith gweithgorau
Mae Estyn yn darparu cyngor a chymorth ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn amrywiaeth o feysydd. Gellir gofyn i Estyn roi cymorth i amryw o wahanol weithgorau, drwy ddod yn rhan ohonynt, drwy gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, neu drwy drafodaethau gydag uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru.
Ar gyfer 2020 i 2021, rhagwelir y bydd Estyn yn rhan o’r gweithgorau canlynol, ond bydd hyn yn cael ei adolygu wrth i’r gwaith fynd rhagddo:
- Y Gangen Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol
- Fforwm Cymru Gyfan o Ymarferwyr Addysg Sipsiwn-Teithwyr
- Grŵp Diogelu mewn Addysg Cymru Gyfan
- Grŵp Mesurau Perfformiad Cyson
- Grŵp y Cwricwlwm ac Asesu, Cwricwlwm i Gymru
- Bwrdd Cyflawni Gweithredol Cwricwlwm i Gymru
- Grŵp Cydlyniant Cwricwlwm i Gymru
- Grŵp Asesu Cwricwlwm i Gymru
- Gweithredu Adolygiad Cwricwlwm i Gymru: Bwrdd Newid
- Grŵp y Fframwaith Cymhwysedd Digidol
- Grŵp Gweithrediadau Digidol
- Gweithgor Safonau Digidol
- Grŵp Safonau Digidol
- Grŵp Darparu Addysg Heblaw yn yr Ysgol
- Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Diwygio Addysg
- Gweithgor Rhanddeiliaid Addysg Ddewisol yn y Cartref
- Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang
- Bwrdd Recriwtio a Chadw Addysg Gychwynnol Athrawon
- Grŵp Trosglwyddo o Addysg Gychwynnol Athrawon
- Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol ar y Cyd ar gyfer Dull Gweithredu Ysgol Gyfan o ran Iechyd Meddwl a Lles
- Cyfarfod Cadw mewn Cysylltiad (Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, Llywodraeth Cymru ac Arolygiaethau)
- Bwrdd Prosiect Ysgolion sy’n Ymarferwyr Arweiniol ac Ysgolion sy’n Ymarferwyr Datblygol
- Fforwm Awdurdodau Lleol ar Gyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr
- Y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol
- Rhwydweithiau Cenedlaethol
- Y Rhwydwaith Diogelwch Ar-lein Cenedlaethol
- Y Grŵp Strategol Cenedlaethol ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal
- Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Addysgol
- Gweithgor PISA
- Grŵp Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol
- Grŵp Llywio Digidol 2030
- Grŵp Arbenigol Addysg Bellach Ôl-16
- Grŵp Llywio Diogelu mewn Addysg
- Grŵp Ysgolion sy’n Destun Pryder
- Bwrdd Achredu Addysg Athrawon
- Y Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru: Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid
- Fforwm Strategol Cymru ar gyfer Datblygu Gyrfaoedd
- Grŵp Data Llywodraeth Cymru
- Cynhadledd Gwella a Chymorth Llywodraeth Cymru
- Grŵp Rhanddeiliaid Gwaith Ieuenctid
- Grŵp Llwyth Gwaith Llywodraeth Cymru
Gweithgorau Meysydd Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru:
- Y Celfyddydau Mynegiannol
- Iechyd a Lles
- Y Dyniaethau
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Mathemateg a Rhifedd
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Gweithgorau Arloeswyr Dysgu Proffesiynol Cwricwlwm i Gymru
1e) Meysydd eraill y gallai Llywodraeth Cymru geisio cyngor a chymorth yn eu cylch o ran addysg a hyfforddiant yng Nghymru
Mae Estyn hefyd yn cynnig cefnogaeth barhaus yn y meysydd canlynol:
- Cynigion yn ymwneud â chau ac ad-drefnu ysgolion
- Lleoliadau ar gyfer disgyblion sydd â datganiad o angen addysgol arbennig (AAA), lle mae caniatâd penodol gan Weinidog Cymru yn ofynnol o dan adran 347(5)(b) o Ddeddf Addysg 1996
- Monitro'n flynyddol ysgolion annibynnol sydd wedi'u cymeradwyo o dan adran 347(1) o Ddeddf Addysg 1996 i dderbyn disgyblion â datganiadau o anghenion addysgol arbennig yn gyffredinol ac sydd â disgyblion ag AAA ar y gofrestr; neu ysgol annibynnol sydd wedi'i chofrestru i dderbyn disgyblion sydd ag AAA o dan adran 158 o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd â disgyblion ag AAA ar y gofrestr
- Arolygu a monitro’n flynyddol holl golegau arbenigol annibynnol Cymru, a darparu arolygydd fel rhan o dîm ar gyfer yr arolygiadau neu’r ymweliadau monitro blynyddol â cholegau arbenigol annibynnol yn Lloegr lle y caiff lleoedd 10 neu fwy o ddysgwyr o Gymru eu cyllido
- Cofrestru ysgolion annibynnol
- Y Grant Datblygu Disgyblion
- Y Grant Gwella Addysg ar gyfer ysgolion
- Datblygu cymwysterau a threfniadau arolygu ar gyfer unrhyw ofynion newydd arfaethedig o ran hyfforddiant cychwynnol i athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes
- Ysgolion sy'n peri pryder
- Gwaith dilynol gyda’r Awdurdodau Addysg Lleol
- Enwebiadau er anrhydedd
- Gwybodaeth gefndir ar gyfer ymweliadau Gweinidog ag ysgolion
- Cwestiynau'r Cynulliad.