Sut rydym yn bwriadu gweithio gyda gwenynwyr i wella iechyd gwenyn mêl.
Cynnwys
Cynllun Gwenyn Iach 2030
Mae Cynllun Gwenyn Iach 2030 wedi’i gyhoeddi ar BeeBase. Nod y cynllun yw cynnal iechyd gwenyn mêl a maes gwenyna yng Nghymru a Lloegr dros y degawd nesaf. Fe'i datblygwyd mewn partneriaeth â'r Fforwm Cynghori ar Iechyd Gwenyn.
Mae Cynllun Gwenyn Iach 2030 yn adeiladu ar y Cynllun Gwenyn Iach blaenorol a gyhoeddwyd yn 2009.
Cofrestru eich gwenynfeydd
BeeBase yw gwefan yr Uned Wenyn Genedlaethol (NBU). Mae'n rhoi toreth o wybodaeth i wenynwyr am blâu a chlefydau gwenyn, yn ogystal â chyngor ar hwsmonaeth dda.
Nid oes rhaid ichi fod wedi cofrestru i gael gafael ar y wybodaeth ar BeeBase. Fodd bynnag, rydyn ni’n argymell yn gryf fod pobl yn cofrestru eu gwenynfeydd ar Beebase. Mae cofrestru yn rhad ac am ddim.
Mae meddu ar gofnodion dibynadwy o wenynwyr a'u gwenynfeydd ledled y wlad yn helpu'r NBU i:
- gynnal gwyliadwriaeth
- atal plâu a chlefydau gwenyn mêl difrifol rhag lledaenu.
Mae hyn yn sicrhau bod y risg o blâu a chlefydau’n cael ei rheoli.
Rhoddir manylion mewngofnodi diogel i wenynwyr cofrestredig. Mae hyn yn eu galluogi i gofnodi manylion eu gwenynfeydd a gweld cofnodion archwilio ar gyfer eu gwenyn mêl.
Mae Beebase yn chwarae rhan hanfodol wrth fapio achosion o glefydau a choladu gwybodaeth am gadw gwenyn . Mae hefyd yn rhoi'r rhybuddion risg diweddaraf am broblemau a allai effeithio ar iechyd eich gwenyn mêl.
Drwy weithio gyda'r NBU, bydd gwenynwyr yn chwarae rhan bwysig iawn wrth helpu i gynnal a diogelu gwenyn mêl ar gyfer y dyfodol.
Clefydau a Phlâu Hysbysadwy
Mae nifer o glefydau a phlâu hysbysadwy yn y DU, a allai effeithio ar eich gwenyn. Maent yn cynnwys: clefyd Americanaidd y gwenyn, clefyd Ewropeaidd y gwenyn, chwilen fach y cwch a gwiddon Tropilaelaps. Mae rhagor o wybodaeth am y clefydau a'r plâu hyn ar BeeBase. Os ydych yn credu eu bod yn bresennol yn eich nythfeydd, rhaid ichi ddweud wrth yr NBU neu eich archwilydd gwenyn lleol ar unwaith – mae'r manylion cyswllt ar Beebase. Mae methu gwneud hynny yn drosedd.
Plâu hysbysiadwy: gwiddonyn Varroa
Ar 21 Ebrill 2021, daeth gwiddonyn Varroa (Varroa destructor a Varroa jacceloni) yn bla hysbysiadwy.
Os ydych chi'n amau bod y gwiddon yn bresennol yn eich nythfeydd dylech:
- ddweud hyn wrth yr Uned Wenyn Genedlaethol drwy ddiweddaru eich cofnod BeeBase
- llenwch y ffurflen adrodd sydd ar gael ar BeeBase, os nad ydych wedi cofrestru gyda'r Uned Wenyn Genedlaethol.
Os wnaethoch gofrestru eich gwenynfa ar BeeBase cyn mis Ebrill 2021, mae eich gwenynfa wedi'i rhagosod yn bositif ar gyfer Varroa.
Dim ond os bydd angen i chi newid statws eich gwenynfa i dim-varroa fyddai angen i chi gysylltu â'r Uned Wenyn Genedlaethol eto.
Mae taflen The National Bee Unit, Managing Varroa, yn rhoi cyngor ar sut i adnabod y pla hwn a sut i'w reoli.
Cacynen Asia
Mae'r gacynen Asia yn rhywogaeth o gacynen nad yw'n frodorol i'r DU. Mae'n llai na'n cacynen frodorol ac nid yw cacwn sengl yn peri mwy o risg i iechyd pobl na'n gwenyn meirch a’n cacwn brodorol. Fodd bynnag, maent yn peri risg i wenyn mêl a phryfed peillio. Dyna pam yr ydyn ni’n awyddus i atal y pryf hwn rhag ymsefydlu yn y DU, ac yn gofyn i bobl roi gwybod os ydyn nhw’n credu eu bod wedi gweld un.
Os ydych chi'n credu eich bod wedi gweld cacynen Asia dylech roi gwybod am hyn gan ddefnyddio'r ap iPhone ac Android 'Asian Hornet Watch'. Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen adrodd ar-lein ar wefan Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU. Fel arall, e-bostiwch alertnonnative@ceh.ac.uk. Anfonwch ffotograff os gallwch dynnu un yn ddiogel. Mae canllawiau adnabod a rhagor o wybodaeth ar wefan yr Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Anfrodorol.
Manylion Cyswllt
Cyswllt ar gyfer Iechyd Gwenyn
E-bost: GwenynMelIach@llyw.cymru / HoneyBeeHealth@gov.cymru
I roi gwybod am achos posibl o wenwyno bywyd gwyllt cysylltwch â'r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt
- rhadffôn: 0800 321600 neu ffoniwch: 03000 615920
- e-bost: wildlife@gov.cymru