Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Yn gynharach y mis hwn, am y tro cyntaf ers datganoli, gwneuthum ddatganiadau llafar ar yr un pryd â'r Gweinidogion Cyllid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ein deddfwrfeydd perthnasol yn galw am eglurder brys ar gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer yr Adolygiad o Wariant a Chyllid y Trysorlys. Galwasom am gymryd rhan ystyrlon yn yr Adolygiad o Wariant er mwyn gallu cynllunio Cyllidebau.
Yr wythnos diwethaf, heb ymgynghori ymlaen llaw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad blwyddyn o Wariant i'w gwblhau ddiwedd mis Tachwedd. Mewn Chrwydrochrol Gweinidogion Cyllid y diwrnod ar ôl y cyhoeddiad, pwysasom ar Brif Ysgrifennydd y Trysorlys i gadarnhau pryd y byddai'r Adolygiad o Wariant yn cael ei gynnal. Unwaith eto, dywedwyd wrthym diwedd Tachwedd. Llai nag wythnos yn ddiweddarach, mae'r Canghellor nawr wedi cadarnhau y bydd yr Adolygiad o Wariant yn cael ei gynnal ar 25 Tachwedd. Er bod y cyhoeddiad ddoe o leiaf yn rhoi eglurder ynghylch pryd y cawn ein setliad ar gyfer y flwyddyn nesaf, nid yw’r dull tameidiog hwn o ddarparu sicrwydd ac ymdrin ag arian cyhoeddus o unrhyw help ac mae'n gwneud y dasg o reoli ein cyllideb yn un eithriadol o anodd. Mae hefyd yn effeithio ar ein partneriaid, rhanddeiliaid a chyrff cyflawni.
Pan nodais yr amserlen ar gyfer cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru cyn toriad yr haf, dywedais wedyn y byddai'n dibynnu i raddau helaeth ar amseriad Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU. Yr wyf heddiw wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Busnes yn nodi goblygiadau'r cyhoeddiad ddoe ar gyfer amseriad ein cyllideb drafft.
Gyda'u cytundeb, fy mwriad yw gohirio cyhoeddi Cyllideb Llywodraeth Cymru tan 21 Rhagfyr. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu mabwysiadu amserlen debyg i Gyllideb y llynedd a gwnaf ddatganiad cyn gynted ag sy'n bosibl ar y Gyllideb ddrafft yn yr wythnos eistedd gyntaf ar ôl y Nadolig. Bydd yr amserlen arfaethedig yn dal i ganiatáu 7 wythnos o graffu.