Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl ar gyfer y Tasglu Ffyrdd sydd heb eu Mabwysiadu.
Pwrpas
I gyflenwi’r allbynnau a nodwyd yn adroddiad Mawrth 2019 i’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth i nodi maint y materion sy’n bodoli, a gweithredu mesurau er mwyn osgoi materion rhag cael eu hail-adrodd yn y dyfodol.
Amcanion
- I ddatblygu ymhellach a gorffen y drafft ‘canllaw arferion da’ i’w ddefnyddio gan awdurdodau lleol a datblygwyr tai ar gyfer ffyrdd ystadau tai newydd.
- I ledaeni ac annog awdurdodau lleol, datblygwyr tai a rhanddeiliaid eraill (gan cynnwys awdurdodau parciau cenedlaethol) i fabwysiadu’r ‘canllawiau arferion da’.
- I fonitro a gwerthuso defnydd ac effeithiolrwydd y ‘canllawiau arferion da’.
- I ddatblygu cyfres o ‘safonau cyffredin’ ar gyfer ffyrdd ystadau tai newydd i’w defnyddio gan awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol a datblygwyr tai.
- I gyflwyno a lledaenu cyfres o ‘safonau cyffredin’ yn yr un modd.
- I weithio gyda GIS / darparwyr mapio ochr wrth ochr â’r awdurdodau lleol i ddatblygu cronfa ddata cynhwysfawr i‘r ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ledled Cymru.
- I bennu maint a chost adfer materion ‘etifeddiaeth’ yn seiliedig ar ddatblygiad cronfa ddata.
- I benderfynu’r opsiynau ar gyfer nodi adnoddau er mwyn galluogi cychwyn ar adfer materion blaenoriaeth etifeddiaeth.
Aelodaeth ac Ysgrifenyddiaeth
Bydd y Tasglu yn cynnal hyblygrwydd er mwy galluogi i aelodaeth amrywio o gyfarfod i gyfarfod yn ddibynnol ar y mater / neu faterion o dan sylw. Serch hynny, fel lleiafswm, bydd aelodaeth yn cynnwys:
- swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- swyddogion Llywodraeth Cymru
- Home Builders Federation
- Federation of Master Builders
- cynrychiolwyr awdurdod lleol o Adrannau Priffyrdd a Chynllunio
Bydd swyddogaeth yr Ysgrifenyddiaeth yn cael ei ddarparu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.