Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Y llynedd, comisiynais Dasglu arbenigol i edrych ar y materion yn ymwneud â ffyrdd heb eu mabwysiadu er mwyn adnabod maint y broblem, ac i weld beth all gael ei wneud i wella’r sefyllfa yng Nghymru.
Wedi ei gadeirio gan Huw Morgan o Awdurdod Llywodraeth Leol Cymru, (cyn Gyfarwyddwr Cymunedau Cynaliadwy i Gyngor Sir Caerfyrddin) ‘roedd gan y Tasglu aelodaeth hyblyg o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol. ‘Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Ffederasiwn yr Adeiladwyr Tai a Ffederasiwn y Meistri Adeiladu, peirianwyr priffyrdd yr awdurdodau lleol, Cymdeithas Syrfewyr Sirol, a chynllunwyr o Gymdeithas Swyddogion Cynllunio Cymru.
Fe wnaethant ymchwilio i faterion sy'n gysylltiedig gyda phob math o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu a'r anawsterau sy’n codi o ganlyniad i ddiffyg perchnogaeth clir ac atebolrwydd am y gwaith cynnal a chadw.
Fe wnaeth adroddiad cychwynnol y Tasglu argymell y camau gweithredu canlynol, ac fe’i derbyniwyd hwynt oll:
- Sefydlu cronfa ddata i ddarparu cofnod cynhwysfawr o’r holl ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru. Defnyddiwyd hyn i benderfynu bod oddeutu 25,000 cilometr o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda thua 2,600 cilometr yn gwasanaethu pum eiddo neu fwy, fel sy'n digwydd yn nodweddiadol gyda ffyrdd ystadau tai sydd heb eu mabwysiadu.
- Mae’r Canllaw Arferion Da wedi cael ei gyhoeddi, a hyd yma, mae 17 o’r 22 awdurdodau priffyrdd lleol yn ogystal â’r ffederasiynau adeiladu tai, wedi cofrestru. ‘Rwy’n siŵr y bydd pob awdurdod lleol yn cofrestru maes o law, ond rwy’n gwerthfawrogi bod llawer ohonynt wedi cael eu hymestyn ac yn methu ymateb oherwydd pandemig COVID-19.
- Sefydlu is-grŵp arbenigol er mwyn datblygu cyfres o safonau dylunio priffyrdd cyffredin, i'w ddefnyddio ledled Cymru gan awdurdodau lleol a datblygwyr tai. Ystyriodd yr is-grŵp fentrau diweddar y Llywodraeth, megis y canllaw dylunio ar gyfer Teithio Llesol.
Bydd y Canllaw Arferion Da a’r Safonau Cyffredin yn helpu i leihau’r siawns fod unrhyw ‘ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu’ eraill yn cael eu creu, heb law am y cymunedau hynny neu ddatblygwyr y byddai'n well ganddynt i'w ffyrdd beidio â bod yn gyhoeddus.
Darllenwch yr adroddiad cyntaf Tasglu Ffyrdd Sydd Heb Eu Mabwysiadu.
Gan adeiladu ar hyn, gwnaeth y Tasglu ychydig o waith dilynol, gan wneud argymhellion pellach, ac rwyf wedi derbyn pob un o’r rhain ac yn bwriadu symud ymlaen ymhellach fel a ganlyn:
- Bydd pob awdurdod lleol yn cael eu cysylltu ac fe ofynnir iddynt nodi eu blaenoriaethau o ran y materion ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu ac fe ofynnir iddynt ddarparu amcangyfrifon cost ar gyfer gwelliannau; byddai angen cyfiawnhau unrhyw gynigion o ran angen yn seiliedig ar flaenoriaethau cenedlaethol a lleol.
- Ystyried cymorth ariannol ar sail peilot i fynd i'r afael â blaenoriaethau ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yn lleol, gyda datblygiad proses ar gyfer dosbarthu cronfa Ffyrdd Sydd Heb Eu Mabwysiadu yn deg a chyfiawn ledled Cymru yn y dyfodol, yn amodol ar ganfyddiadau'r peilot.
- Monitro a gwerthuso’r Canllaw Arferion Da gydag awdurdodau lleol.
- Bydd cyfres o Safonau Cyffredin i'w defnyddio gan Awdurdodau Priffyrdd Lleol yn cael eu cyhoeddi a bydd cyllid blynyddol i alluogi’r rhain i gael eu hadolygu a’i diweddaru yn rheolaidd gan CSS Cymru.
Hoffwn ddiolch i’r Tasglu am y gwaith maent wedi ei wneud, i sefydlu’r dulliau tymor hir sydd eu hangen i ddod o hyd i ddatrysiad i’r materion sy’n gysylltiedig â ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu yng Nghymru.
Darllenwch adroddiad terfynol Tasglu Ffyrdd Sydd Heb Eu Mabwysiadu.