Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 8 Hydref, rhoddais wybod ichi am broblem gyflenwi ledled y DU a oedd yn effeithio ar y gwaith o ddarparu’r pecynnau a’r adweithredyddion diagnostig a gyflenwir gan gwmni fferyllol Roche.
Gofynnais i’m swyddogion weithio mewn partneriaeth gyda Roche, eu cymheiriaid ledled y DU a chydweithwyr yn GIG Cymru i sicrhau bod unrhyw effaith ar y GIG yng Nghymru yn cael ei leihau, ac fe addewais y byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi yn ôl yr angen.
Gallaf gadarnhau yn awr, yn ystod y sefyllfa hon bod yr holl wasanaethau brys a hanfodol wedi parhau ar hyd yr amser. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r Byrddau Iechyd, ac yn enwedig i’r timau patholeg ar draws Cymru, sydd wedi gweithio pob awr o’r dydd gyda’i gilydd i sicrhau bod cyflenwadau ar gael i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn.
Mae fy swyddogion yn awr wedi sefydlu cadwyn gyflenwi gadarn gyda Roche, sydd wedi sicrhau y gall gwasanaethau yn awr weithredu fel arfer. Rwyf hefyd yn falch o ddweud, ers i’m swyddogion sefydlu sianelau cyfathrebu uniongyrchol, bod Roche wedi arddangos ymrwymiad i GIG Cymru drwy flaenoriaethu ein harchebion yn effeithiol.
Rydym wedi cyfathrebu gyda phartneriaid clinigol. Mae Byrddau Iechyd, lle bu tarfu ar wasanaethau, wedi sefydlu mecanweithiau i sicrhau y bydd unrhyw gleifion a effeithiwyd yn cael y gwasanaethau angenrheidiol yn fuan.
Mae Roche wedi cadarnhau y byddant yn cynnal gwerthusiad gwersi a ddysgwyd, a fydd yn cael ei rannu gyda ni. Rwyf hefyd wedi gofyn i’m swyddogion adolygu prosesau yma yng Nghymru yn dilyn y digwyddiad hwn a darparu argymhellion imi yn ôl yr angen.