Heddiw (20 Hydref), mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019 hyd 2020, gan adrodd bod £300 miliwn wedi’i godi yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Bydd y refeniw yn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn uniongyrchol ledled Cymru.
Parhaodd ACC hefyd i ddefnyddio ei ddull partneriaeth o ymdrin â threth – gan helpu pobl i dalu'r dreth gywir ar yr adeg gywir – a chyfuno hynny â phroses arloesol o'r enw 'rheoli risg treth'. Mae'r awdurdod treth wedi diogelu amcangyfrif o rhwng tua £1.2 miliwn ac £1.6 miliwn dros y tair blynedd nesaf drwy ddefnyddio'r dull hwn.
Mae rheoli risg treth yn golygu defnyddio gwybodaeth gyfunol i adnabod meysydd lle gallai gwallau cyffredin ddigwydd, a chymryd camau gweithredol i leihau neu atal gwallau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Mabwysiadodd ACC y dull hwn gyda llwyddiant cynnar, drwy gynnal ystod o weithgareddau; o addysg hyd at wella canllawiau a gwneud gwelliannau digidol yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr.
Dechreuodd ACC, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, gasglu a rheoli refeniw o ddwy dreth ddatganoledig yng Nghymru, y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Tirlenwi, ym mis Ebrill 2018. Dyma'r tro cyntaf i'r corff codi refeniw cenedlaethol adrodd ar gyflawni yn erbyn ei Gynllun Corfforaethol 2019 hyd 2022, wedi iddo dderbyn cymeradwyaeth y Gweinidog Cyllid a Threfnydd ym mis Mai 2019.
Meddai Kathryn Bishop, Cadeirydd ACC:
Rydym yn dal i fod yn sefydliad ifanc, ond mae ein blwyddyn gyntaf o gyflawni ein Cynllun Corfforaethol llawn cyntaf wedi dangos ein bod yn aeddfedu i’n rôl ac yn cefnogi'r gwaith o ddarparu system dreth deg yng Nghymru.
Rydym yn falch o adrodd am ganlyniadau cadarnhaol yn gyffredinol, er gwaethaf heriau fel coronafeirws (COVID-19), a brofodd ein gwydnwch, fel y mae'n ei wneud i lawer o rai eraill ledled Cymru. Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi parhau i'n cefnogi ac, yn bwysig, i’n pobl, am eu hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau sy'n codi refeniw hanfodol i Gymru.
Meddai Dyfed Alsop, Prif Weithredwr ACC:
O'r diwrnod cyntaf, rydym wedi defnyddio dull partneriaeth o drethu, gan helpu pobl i dalu'r dreth gywir ar yr adeg gywir. Arweiniodd hyn at godi £300 miliwn mewn treth i ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn ystod y flwyddyn.
Fe wnaethom hefyd gyflwyno ein ffordd ein hunain o reoli risg treth. Rydym yn defnyddio'r dull arloesol hwn i nodi gwallau mewn ffurflenni treth ac yn canfod ffyrdd o leihau neu atal y risg o achosion pellach yn digwydd eto yn y dyfodol.
Mae gennym fwy i'w wneud, ond rydym yn dechrau gweld tystiolaeth bod ein ffordd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, sy'n golygu cydweithio i reoli treth, yn effeithiol.
Am ragor o wybodaeth, gweler Awdurdod Cyllid Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019 hyd 2020.