Mae rhaglen Haf Hwylus Llywodraeth Cymru wedi helpu cannoedd o bobl ifanc ledled Cymru i gyrraedd eu potensial a gwella eu cyflogadwyedd a’u sgiliau hanfodol, meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
![Rhaglen sgiliau hanfodol Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanci gyrraedd eu potensial](/sites/default/files/styles/600x400/public/announcements/2020-10/Summer%20Sorted%20programme%20%281%29_0.jpg?itok=Ye3GR0hc)
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chynnal dros gyfnod gwyliau haf ysgolion pob blwyddyn, wedi ei hanelu at bobl ifanc sydd wedi cwblhau Blwyddyn 11 yn ddiweddar ond sydd angen rhagor o gymorth i helpu iddynt bontio i addysg bellach, hyfforddiant neu waith.
Oherwydd cyfyngaidau pellter cymdeithasol yr haf hwn o ganlyniad i’r coronafeirws, rhoddwyd y cyfle i ddysgwyr gymryd rhan mewn rhaglen o ddysgu ar-lein/o bell o dan arweiniad hyfforddwyr.
Roedd hyn yn gyfle i nifer ohonynt wella eu galluoedd technoleg digidol a chyfathrebu ar-lein, yn ogystal â chanolbwyntio ar wella eu sgiliau allweddol a darparu gwybodaeth am gymorth ar gyfer iechyd a llesiant.
Gwnaethpwyd hyn drwy gyfuniad o weithgareddau grŵp ar-lein a chymorth unigol eleni, gyda bron 550 o ddysgwyr yn cymryd rhan. Cafodd nifer ohonynt leoedd mewn colegau neu leoliadau hyfforddi ym mis Medi wedi gwela eu canlyniadau’n sylweddol diolch i’r rhaglen.
Ble nad oedd yn bosibl i ddysgwyr ddysgu ar-lein, anfonwyd deunydd yn y post a chafwyd rhagor o gymorth dros y ffôn.
Mae cyfranogwyr rhaglen eleni wedi cymeradwyo hyblygrwydd yr opsiynau dysgu oedd ar gael iddynt.
Dywedodd un ohonynt:
“Roedd yn brofiad gwych. Roeddwn wrth fy modd yn ei wneud, ac wedi dysgu nifer o sgiliau newydd a sut i weithio ar wahanol bethau nad wyf yn dda yn eu gwneud. Hoffwn ddiolch ichi am roi’r profiad hwn imi, dwi’n ei werthfawrogi’n fawr.
Ychwanegodd un arall:
“Bu fy mentor mor gefnogol ac amyneddgar. Dwi’n credu y bydd o gymorth mawr pan fyddaf yn dechrau coleg ym mis Medi.
Meddai Rob Peebles, tiwtor sgiliau hanfodol ACT Training – un o ddarparwyr y fenter Haf Hwylus – am raglen eleni:
“Mae’r offer a’r adnoddau digidol yr ydy ni wedi eu defnyddio yn gwneud dysgu o bell yn llawer mwy effeithiol ac mae’r dysgwyr yn ei fwynhau. Mae dysgu o bell yn newydd inni i gyd ond dwi’n credu ein bod yn addasu’n wych ac wedi derbyn adborth gwych gan rai dysgwyr.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o gefnogi pobl ledled Cymru a helpu iddynt gyrraedd eu potensial.
“Roedd eleni yn un o’r blynyddoedd anoddaf erioed o ganlyniad i’r pandemig, gan roi pwysau di-gynsail ar ein heconomi. Ond mae hefyd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gweithlu sydd â’r sgiliau i fynd i’r afael â heriau ac sy’n barod ar gyfer cyfleoedd yfory.
“Mae rhaglenni fel Haf Hwylus yn hollbwysig i helpu inni sicrhau bod economi Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol i greu gweithlu sydd hyd yn oed yn fwy cadarn a dawnus.