Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
Rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol yn ardaloedd 15 o’r awdurdodau lleol, yn ogystal ag yn Llanelli a Bangor, i reoli cynnydd cyflym a sydyn mewn achosion o’r coronafeirws. Caiff y cyfyngiadau hyn eu hadolygu'n ffurfiol bob wythnos a gwnaethom hynny eto ddoe. Daeth y cyfyngiadau cyntaf i rym ym mwrdeistref Caerffili ychydig dros fis yn ôl, a’r rhai diweddaraf ym Mangor wythnos yn ôl.
Y duedd gyffredinol yng Nghymru yw bod y sefyllfa’n gwaethygu, ac mae'r rhan fwyaf o ardaloedd lle mae cyfyngiadau lleol ar waith wedi dangos tuedd saith diwrnod lle bu cynnydd yn nifer yr achosion o Covid-19. Gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd, rydym wedi dod i'r casgliad bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn golygu na allwn leddfu'r cyfyngiadau, a byddant ar waith am o leiaf saith diwrnod arall.
Mae tystiolaeth ym mhob rhan o Gymru bod y cyfyngiadau hyn, ac ymdrechion pobl leol a gwasanaethau lleol, yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Dros y saith diwrnod diwethaf, fodd bynnag, yr hyn y mae’r gwahaniaeth hwn wedi’i wneud yw arafu’r feirws yn hytrach na’i wrthdroi. Rwy'n dal yn ddiolchgar iawn i bobl Cymru am eu holl ymdrechion hyd yma.