Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor yn gorfod ynysu am 14 diwrnod, a darparu gwybodaeth am deithwyr, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020.
Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau hyn i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i ynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth teithwyr.
Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio.
Heddiw, adolygais asesiadau diweddaraf y Gydganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd yr Eidal, Gwladwriaeth Dinas y Fatican a San Marino yn cael eu tynnu oddi ar y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Felly bydd rhaid i deithwyr sy’n cyrraedd o’r gwledydd hyn ynysu pan fyddant yn cyrraedd Cymru. Rwyf hefyd wedi penderfynu na fydd ynys roegaidd Crete yn cael ei heithrio mwyach o’r eithriad ar gyfer Gwlad Groeg, ac felly bydd yn cael ei ystyried fel tiriogaeth sydd wedi’i heithrio.
Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sul 18 Hydref.