Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg
Yn dilyn argymhellion adroddiad 'Cyllido Ysgolion yng Nghymru' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Gorffennaf 2019, comisiynais yr economegydd addysg blaenllaw Luke Sibieta i gynnal adolygiad annibynnol o wariant ysgolion yng Nghymru.
Mae'r adolygiad bellach wedi dod i ben ac fe gyhoeddwyd adroddiad Luke heddiw.
Mae'n bleser gennyf groesawu'r adolygiad hwn. Hoffwn ddiolch i Luke am y dadansoddiad trylwyr a ddarparwyd, ac i'n rhanddeiliaid addysg am roi eu barn a'u harbenigedd, a oedd yn gyfraniad mor werthfawr at y gwaith.
Mae'r pandemig presennol yn rhoi straen digynsail ar gyllidebau'r sector cyhoeddus. Rwy’n gwbl ymwybodol o'r pwysau gwirioneddol y mae Awdurdodau Lleol ac ysgolion yn eu hwynebu o ganlyniad. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod gan wasanaethau cyhoeddus Cymru yr holl adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymateb i'r argyfwng a'i liniaru. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen inni ddeall y penderfyniadau ariannu a wneir ledled Cymru i sicrhau tegwch a rhagoriaeth i'n dysgwyr. Mae cyhoeddi'r adroddiad hwn yn amserol iawn, felly, gan ei fod yn darparu tystiolaeth i alluogi llunwyr polisi i wneud penderfyniadau doeth wrth ystyried cyllid ar gyfer ysgolion ledled Cymru, gan barhau â'n nod cyffredinol o godi safonau ysgolion a lleihau anghydraddoldebau. Byddaf yn neilltuo amser i ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd.