Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Drwy SAGE a'r Grŵp Cyngor Technegol, mae Llywodraeth Cymru yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfansoddiad genetig y feirws sy'n achosi Covid-19. Mae'r wybodaeth ddyfnach sy'n deillio o astudio blociau adeiladu SAR-CoV-2 yn ddiddorol ac yn ddychrynllyd yr un pryd. Diolch i waith caled arbenigwyr o Gymru sydd wedi bod yn dilyniannu dros 7,500 o gopïau o'r genom feirysol, fel rhan o gonsortiwm ledled y DU sydd wedi dilyniannu mwy na 50,000 o gopïau ers dechrau'r pandemig, rydym yn dysgu pethau a all ein helpu i dargedu ymyriadau lle byddant yn cael yr effaith fwyaf ar y feirws.
Fel rhan o'n hymrwymiad i ddarparu cyngor agored a thryloyw, rwy'n rhannu'r papur diweddaraf hwn, sydd wedi'i ysgrifennu ar y cyd gan y tîm Biowybodeg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Uned Genomeg Pathogenau yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd. Fel yr holl ddata gwyddonol sy'n cael eu darparu drwy SAGE a TAG, mae’r papur hwn ar flaen y gad o ran ymchwil, ac mae’n bosibl na chaiff ei gyflwyno i'w gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygir gan gymheiriaid mor gyflym ag y byddai ein harbenigwyr yn dymuno. Mae'n bwysig darllen y cafeatau yn ogystal â'r casgliadau.
Mae'r data genomeg yn dangos yn glir bod strwythur presennol y boblogaeth o SARS-CoV-2 sy’n cylchredeg yng Nghymru yn wahanol i'r hyn a welwyd ym mis Mawrth/Ebrill. Mae'r data'n darparu gwybodaeth am sawl elfen yn ymwneud ag effaith y cyfnod clo ac effaith bosibl cyfyngiadau fel y rheol 5 milltir. Yr hyn sy'n amlwg o'r data yw bod lleddfu’r cyfyngiadau fis Awst wedi cyfateb i gynnydd mewn achosion. Gallai hyn fod wedi cael ei achosi’n rhannol gan fewnforion o rannau eraill o'r DU a'r byd ehangach.