Fframwaith gweithredu hyblyg ac ymatebol.
Dogfennau
Strategaeth gwyddoniaeth ac arloesi ar gyfer coedwigaeth ym Mhrydain , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Manylion
Cyhoeddwyd y strategaeth ym mis Hydref 2020. Mae'n darparu fframwaith ar gyfer ymchwil wyddonol sy'n gysylltiedig â choedwigaeth. Ei nod yw cefnogi'r gwaith o reoli ein coedwigoedd, coetiroedd a choed yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae'r fframwaith hwn yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan y sector o ran:
- mynd i'r afael â'r heriau o wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd, a
- cefnogi'r adferiad gwyrdd o COVID-19, a chyfraniad gwyddoniaeth ac arloesi at hyn
Mae'r strategaeth yn nodi deilliannau, themâu a meysydd o ddiddordeb ymchwilio ar lefel uchel. Nodwyd y rhain gan Lywodraethau Cymru, y DU a'r Alban a rhanddeiliaid coedwigaeth. Mae hyn yn cynnwys ymchwil ar y themâu canlynol:
- rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yng ngoleuni newid amgylcheddol
- marchnadoedd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau coedwigoedd
- manteision cymdeithasol o goed, coetiroedd a choedwigoedd
- asesu adnoddau a monitro'r sector
- sicrhau manteision lluosog i ecosystemau
- creu ac ehangu coetiroedd
- iechyd coed a bioddiogelwch
Dechreuodd y gwaith o gyflawni'r ymchwil hwn ar 1 Ebrill 2021 a bydd yn rhedeg am 5 mlynedd.