Heddiw mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cryfhau ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws ymhellach drwy ad-drefnu portffolios Gweinidogol allweddol.
Bydd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar y ddwy flaenoriaeth sydd gan Gymru o ymateb i’r coronafeirws a pherfformiad a chyflawniad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Wrth i achosion o’r coronafeirws gynyddu ym mhob cwr o Gymru, bydd Eluned Morgan yn ymgymryd â rôl newydd fel y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, gan gydnabod effaith y feirws yn y tymor hwy ar iechyd meddwl a llesiant pobl.
Bydd Eluned Morgan yn cymryd cyfrifoldeb dros wasanaethau iechyd meddwl, dementia, awtistiaeth, camddefnyddio sylweddau, iechyd cyn-filwyr, profiad y claf a’r strategaeth ordewdra, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â Vaughan Gething.
Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:
“Rydyn ni wedi dysgu llawer o’r don gyntaf o’r coronafeirws a’r ffordd rydyn ni a’r gwasanaethau cyhoeddus wedi ymateb i’r feirws. Unwaith eto, rydyn ni’n wynebu cynnydd yn nifer yr achosion ledled y wlad ac mae misoedd anodd o’n blaenau ni.
“Mae Vaughan wedi gwneud gwaith gwych wrth arwain ymateb ein gwasanaeth iechyd i’r pandemig a bydd e’n parhau i fod yn gyfrifol am yr ymateb hwnnw o ddydd i ddydd. Mae’r newidiadau rydw i’n eu gwneud i’m tîm yn y Cabinet yn golygu y bydd Vaughan yn gallu neilltuo ei holl amser ac ymdrech i’r coronafeirws a sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gallu trin pobl sydd â’r feirws yn ogystal ag ymateb i anghenion iechyd ehangach y boblogaeth.
“Mae gan Eluned hanes llwyddiannus o weithio mewn llywodraeth a bydd yn dod â’r holl brofiad hwnnw gyda hi i ddiogelu a hybu llesiant ehangach pobl yng Nghymru.”
Bydd Julie Morgan yn parhau yn ei rôl fel y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Bydd y maes cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys y rhaglen Cymru ac Affrica, yn dod yn rhan o bortffolio cyfrifoldebau’r Prif Weinidog.