Rheon Tomos Aelod Anweithredol
Mae Rheon Tomos wedi gwasanaethu fel Aelod Anweithredol o Fwrdd Awdurdod Cyllid Cymru ers mis Hydref 2020.
Mae Rheon yn gyfrifydd cymwysedig ac mae wedi dal uwch swyddi yn y Comisiwn Archwilio a Deloitte cyn gweithio'n annibynnol ac fel Partner TDE Associates.
Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys gwella perfformiad, asesu risg a rheoli a llywodraethiant, ac mae'r rhain yn cynnwys cefnogi sefydliadau mawr a bach a chynnal hyfforddiant ledled y DU ar gyfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth.
Mae gan Rheon hefyd brofiad sylweddol fel cyfarwyddwr anweithredol gyda:
- Awdurdod S4C
- Estyn
- Cymwysterau Cymru
- Comisiynydd y Gymraeg
- Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol
- National Theatre Wales (Productions) Limited
- Amgueddfa Cymru
- Urdd Gobaith Cymru