Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r coronafeirws yn parhau i fod yn her enfawr i gartrefi gofal, ac rwy'n ymwybodol bod yr heriau hyn yn debygol o gynyddu yn ystod yr hydref.
Ym mis Gorffennaf, amlinellais y prif feysydd y bydd ein cynllun yn canolbwyntio arnynt er mwyn cefnogi'r sector cartrefi gofal, ac addewais roi diweddariad i'r aelodau ar y cynnydd sy'n cael ei wneud, yn yr hydref. Dyma'r meysydd sydd wedi'u cynnwys yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal: atal a rheoli heintiau, cyfarpar diogelu personol, cymorth cyffredinol a chlinigol ar gyfer cartrefi gofal, llesiant preswylwyr, llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol a chynaliadwyedd ariannol. Heddiw, cyhoeddais ddiweddariad ar y cynnydd sy’n cael ei wneud yn y meysydd allweddol hyn https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cartrefi-gofal
Fel rhan o'r cymorth cyffredinol a chlinigol ar gyfer elfen cartrefi gofal o'r cynllun, comisiynwyd yr Athro John Bolton, ymgynghorydd ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, i gynnal adolygiad cyflym ac annibynnol o brofiad gweithredol cartrefi gofal rhwng mis Gorffennaf a mis Medi. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Athro Bolton am ei waith, a chadarnhau bod yr adroddiad terfynol bellach wedi'i gwblhau, a'i fod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yma: https://llyw.cymru/adolygiad-cyflym-o-gartrefi-gofal-o-safbwynt-covid-19
Fel rhan o'r adolygiad hwn, cynhaliodd yr Athro Bolton nifer o gyfweliadau gyda sefydliadau allweddol ar draws Cymru i nodi meysydd arfer gorau a gwersi i'w dysgu cyn i bwysau'r gaeaf ddechrau. Cynhaliwyd seminarau ym mhob rhanbarth ledled Cymru i helpu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddatblygu cynlluniau gweithredu pwrpasol i gefnogi cartrefi gofal yn eu hardal, ac mae pob un o'r saith rhanbarth bellach wedi cwblhau eu cynlluniau. Rwy'n ddiolchgar i'r holl sefydliadau a gymerodd ran yn yr adolygiad hwn yn ystod cyfnod prysur iawn, ac yn arbennig i'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol am eu rhan adeiladol yn y broses hon.
Mae adroddiad yr Athro Bolton, a diweddariad y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal yn dangos, er bod nifer o enghreifftiau o arfer da ar draws y sector, bod rhagor o waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod yn sector yn parhau i gael ei gefnogi. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ar y cynnydd sy’n cael ei wneud yn hwyrach eleni.