Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg
Heddiw, mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) wedi cyhoeddi adroddiad ar ei adolygiad, sef ‘Achieving the New Curriculum for Wales’.
Mae’r adroddiad yn asesiad gan yr OECD o’n cynnydd mewn perthynas â gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Mae’n trafod pa mor barod yw Cymru, ac yn nodi eu hargymhellion i alluogi Cymru i gynnal momentwm a gwireddu’r uchelgais a rennir ar gyfer pob dysgwyr, pob ysgol a’r system ei hun.
Yn gynnar yn 2020, roedd yr OECD yn drafftio eu hadroddiad terfynol ar ein proses o ddatblygu a gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru.
Fel y gellir disgwyl, mae’r heriau sy’n gysylltiedig â COVID-19 wedi golygu bod oedi o ran cyhoeddi’r adroddiad. Er hynny, rydym wedi’r rhoi’r hyn a ddysgwyd o adborth yr OECD ar waith yn ein hymyriadau wrth i ni barhau i ymateb i effeithiau’r pandemig ar ein system addysg.
Gan fod plant a phobl ifanc wedi dychwelyd i’r ysgol bellach a’n system addysg yn addasu i ffyrdd newydd o weithio, mae’r OECD wedi cyhoeddi’r adroddiad hwn ac rydym yn ei groesawu.
Hoffwn ddiolch i’r OECD am yr adroddiad a’r gwaith manwl a helaeth a wnaed ganddynt. Hoffwn hefyd ddiolch i nifer o’r partneriaid sydd wedi cymryd rhan yn yr adolygiad hwn.
Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ar yr Adroddiad gerbron y Senedd ddydd Mawrth, 6 Hydref.
Mae copi o Adroddiad yr OECD ar gael yma