Fel rhan o’i hymateb i coronafeirws (COVID-19), mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu’r cymorth mae’n ei ddarparu ar gyfer pobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan ddiswyddiadau, mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi dweud.
Bydd ymgyrch newydd, a lansiwyd heddiw drwy Gymru’n Gweithio, yn hyrwyddo’r cymorth wedi’i deilwra sydd ar gael i bobl sydd wedi colli eu swyddi neu sydd mewn perygl o golli eu swyddi, ac yn eu helpu i chwilio am gyfleoedd newydd.
Mae pandemig y coronafeirws wedi arwain at heriau a phwysau enfawr ar gyfer busnesau a gweithwyr, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd.
Ym mis Awst, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn swyddi a sgiliau gwerth £40 miliwn. Bydd y pecyn hwn yn helpu pawb y mae angen cymorth arnyn nhw i ddod o hyd i swydd, addysg neu hyfforddiant, neu i ddechrau eu busnes eu hunain yn yr adeg heriol hon. Bydd hyn yn allweddol wrth helpu Cymru i adfer o’r pandemig ac yn sicrhau nad oes neb yn cael ei esgeuluso.
Mae Cymru’n Gweithio’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop, ac yn cael ei weithredu gan Yrfa Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig amrediad o gymorth – o ddatblygu a diweddaru sgiliau a magu hyder, i helpu gyda phroblemau iechyd neu ofal plant. Gall y cymorth hwn gael ei deilwra i anghenion unigolion.
Mae Jonathan Rew-Dixon, 48, o Ynys Môn, yn un o’r llawer o bobl sydd eisoes wedi elwa ar gymorth gan Gymru’n Gweithio. Derbyniodd gymorth a chyngor gan Gymru’n Gweithio ynghynt eleni ar ôl cael ei ddiswyddo yn fuan ar ôl i’r coronafeirws ddod i’r amlwg yn y DU ym mis Mawrth.
Ar ôl gweithio i gwmni yswiriant am 25 mlynedd, roedd Jonathan am gael newid – ond roedd yn teimlo bod angen rhagor o sgiliau trosglwyddadwy arno. Helpodd Cymru’n Gweithio fe i gael yr hyfforddiant oedd ei angen arno ym maes cydymffurfiaeth.
Dywedodd Jonathan:
“Caeodd y cwmni’r swyddfa ro’n i’n gweithio ynddi ym mis Mawrth. Ro’n i’n disgwyl cael fy niswyddo, ac roeddwn i wedi cael sgyrsiau cadarnhaol â chwmnïau eraill. Ond daeth hynny i gyd i ben pan ddechreuodd y cyfnod clo ledled y DU. Nid oedd yr un o’r cwmnïau roeddwn i wedi siarad â nhw yn gallu ymrwymo i gyflogi aelod newydd o staff.
“Roedd colli fy swydd mewn cyfnod a oedd eisoes yn ansicr yn destun pryder. Roedd fy ngwraig yn gefnogol iawn ac yn cydymdeimlo â fy sefyllfa. Ond doeddwn i ddim yn gwybod am faint y byddai’r sefyllfa yn para, ac roeddwn i’n poeni y byddai fy oedran yn fy rhwystro i rhag cael swydd. Ces i fy hun yn crwydro o gwmpas y tŷ ac yn poeni ynghylch faint y byddwn i’n ddi-waith.
“Ond ar ôl gweithio i gwmnïau yswiriant ers 25 mlynedd, gwelais i’r diswyddiad fel cyfle i roi cynnig ar rywbeth ychydig yn wahanol. Felly, cysylltais â Chymru’n Gweithio i drafod rhagor o opsiynau. Roeddwn i wedi gwneud rhywfaint o reoli prosiectau yn fy rôl flaenorol, ac ro’n i’n meddwl efallai y gallwn i fynd ar y trywydd hwnnw. Ond ro’n i’n poeni na fyddai gen i’r sgiliau neu’r cymwysterau cywir i gael swydd.
“Roedd fy nghynghorydd yn Nghymru’n Gweithio’n wych. Gwnaeth hi drafod fy holl opsiynau, helpu gyda’r gwaith papur a threfnu imi gofrestru ar gyfer pedair cwrs hyfforddiant ar-lein ar reoli prosiectau, a gafodd eu cynnal rhwng mis Mai a mis Awst, i fireinio fy sgiliau. Roedd y cyrsiau’n wych ac roedd y cyfan yn rhad ac am ddim – roedd hynny’n helpu’n fawr iawn.
O ganlyniad i gwblhau’r hyfforddiant roedd gan Jonathan yr hyder i wneud ceisiadau am amrediad ehangach o swydd – a chynigiwyd ei swydd newydd ym maes cydymffurfiaeth iddo ym mis Gorffennaf.
Ychwanegodd Jonathan:
“Dw i’n dwlu ar fy swydd newydd. Dw i’n mwynhau’r her a gweld sut mae pethau’n cael eu gwneud o bersbectif arall. Mae’n ddwys iawn ond yn ddiddorol. Y gwir yw fy mod yn ei mwynhau’n fwy na fy hen swydd. Mae’r ffaith imi gael swydd mor gyflym yn dangos bod cwmnïau’n parhau i chwilio am staff – ac os oes gennych chi’r sgiliau cywir rydych mewn sefyllfa dda i gael un o’r swyddi hynny.
“Dywedodd yr unigolyn a roddodd y swydd imi fod fy nghymwysterau yn un o’r rhesymau imi gael y swydd. Os ydych chi’n poeni am eich swydd, neu wedi cael eich diswyddo yn ystod y pandemig, dw i’n argymell yn gryf iawn eich bod yn cysylltu â Chymru’n Gweithio.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Er bod y lefel y diweithdra yng Nghymru yn is na’r lefel gyffredinol ar gyfer y DU, mae’n amlwg bod y pandemig yn cael effaith.
“Hyd yn hyn mae ein Cronfa Cadernid Economaidd wedi diogelu dros 100,000 o swyddi ac wedi rhoi cymorth ariannol gwerth bron £300 miliwn i 13,000 o fusnesau. Ond rydyn ni’n byw mewn cyfnod hynod anodd, ac mae rhai busnesau bellach yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd – ac mae’r penderfyniadau hynny’n cael effaith ar eu gweithwyr a’u bywoliaeth.
“Dyma pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl, fel Jonathan, sydd wedi colli eu swyddi neu mewn perygl o golli eu swyddi.
“Rydyn ni’n byw mewn cyfnod hynod anodd ac ansicr, ond byddwn ni’n parhau i gefnogi ein busnesau, ein gweithwyr a’n cymunedau.
I helpu i sicrhau bod pobl yn deall y cymorth sydd ar gael iddyn nhw os ydyn nhw’n cael eu diswyddo, bydd hysbysebion ar y teledu, y radio a’r cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf.
I ddysgu mwy, ffoniwch Gymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu ewch i wefan Cymru Gweithio.