Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Academi Wales eu Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2019 - 2020. Mae'r adroddiad yn crynhoi cyflawniadau allweddol Academi Wales yn ystod y flwyddyn, gan rannu manylion ac ystadegau allweddol o'u digwyddiadau blaenllaw.
Mae'r adroddiad yn agor gan ddiolch o galon i Jo Hicks - a fu’n Gyfarwyddwr ar Academi Wales am 10 mlynedd cyn iddi adael y rôl yn 2019 - ac mae'n croesawu Paul Schanzer, Cyfarwyddwr newydd Academi Wales sy'n disgrifio ei frwdfrydedd wrth ymgymryd â'r rôl arwain.
Mae'n wych gweld bod Academi Wales wedi parhau i gynnig digwyddiadau ac ymyriadau arweinyddiaeth o ansawdd uchel i gynrychiolwyr yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru drwy gydol rhai o amgylchiadau heriol eleni, gan gynnwys cynllunio Ysgol Haf Rithwir - y cyntaf o'i bath - yn gyflym ac yn effeithlon. Cafodd yr Ysgol Haf Rithwir adborth rhagorol, gyda chynrychiolwyr yn nodi pa mor dda y ffitiodd o amgylch eu hamserlenni prysur ac fe wnes i fwynhau cymryd rhan yn fawr drwy siarad â chynrychiolwyr yn rhithwir o'm cartref.
Daeth ail garfan Rhaglen Graddedigion Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Gyfan i ben ym mis Awst a dysgodd y Graddedigion yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn rhan o Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru eleni, wrth iddyn nhw drosglwyddo eu sgiliau rhwng sefydliadau a lleoliadau. Bydd rhaglen fel hon yn amhrisiadwy yn eu datblygiad.
Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r Rhaglen Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog (prawf o gysyniad) a'r Rhaglen i Ddarpar Gyfarwyddwyr - rhaglenni arweinyddiaeth unigryw sy'n ymroi i gefnogi arweinwyr yng Nghymru i ddatblygu a mireinio eu sgiliau a'u hymddygiad arwain ymhellach.
Darllenwch Adroddiad Blynyddol Academi Wales ar gyfer 2019 - 2020 yma – https://academi-wales-team-storage.s3-eu-west-1.amazonaws.com/corporate/Adroddiad-Blynyddol-2019-2020.pdf