Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'r wythnos hon yn foment arwyddocaol iawn yn dilyn dwy flynedd o gydweithio rhwng staff GIG Cymru, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru, gyda'r cyhoeddiad am lwybr newydd ar gyfer rheoli cwyr clustiau.
Mae cwyr clustiau (cerumen) yn gŵyn iechyd gyffredin a phroblemus. Mae’n arbennig o broblemus i bobl sydd eisoes â nam ar eu clyw gan ei fod yn dwysáu eu hanawsterau cyfathrebu. Mae cwyr clustiau trafferthus yn gyflwr iechyd cymharol hawdd i fynd i'r afael ag ef wrth i weithwyr proffesiynol hyfforddedig ei dynnu o’r glust.
Canfu astudiaethau cwmpasu fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r gwasanaeth Ymarfer Awdioleg Uwch mewn gofal sylfaenol fod 3% o'r boblogaeth yn gofyn am gymorth gyda chwyr clustiau bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i tua 96,000 o apwyntiadau cleifion mewn lleoliadau gofal sylfaenol ledled Cymru bob blwyddyn.
Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ym mis Mawrth 2018 i sicrhau y gall pob dinesydd ledled Cymru gael y driniaeth a'r gefnogaeth fwyaf priodol ar gyfer problemau cwyr clustiau, ar sail egwyddorion gofal iechyd darbodus.
Nod y grŵp oedd datblygu llwybr integredig cenedlaethol a fyddai'n sicrhau canlyniadau cyson i gleifion ledled Cymru ac yn sicrhau mynediad teg, defnydd effeithlon a darbodus o adnoddau'r GIG. Roedd yn rhaid i'r llwybr ddarparu rheolaeth ddi-dor ar draws lleoliadau gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd hefyd gan gydymffurfio â chanllawiau cyfredol NICE a safonau ansawdd awdioleg.
Yn y pen draw cytunwyd ar yr amcanion hyn, a’u cyflawni, yn 2019.
Dangosodd canfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen bod cleifion angen ac yn gwerthfawrogi iaith uniongyrchol a chlir yn y cyngor a gânt ar reoli (gan gynnwys hunanreoli) cyflyrau meddygol. Mae taflenni gwybodaeth a deunydd hyrwyddo yn cael eu datblygu i gynorthwyo pobl i wneud y dewisiadau cywir mewn perthynas â hunanreoli cwyr clustiau a'u cyfarwyddo i gael gafael ar y gwasanaethau cywir.
Heddiw, rwy'n cymeradwyo holl argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen. Mae’r rhain wedi eu nodi’n fanwl mewn Cylchlythyr Iechyd Cymru ond maent yn cynnwys y canlynol:
- Bydd cwyr clustiau yn cael ei reoli dan arweiniad Ymarferwyr Awdioleg Uwch mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, yn unol â'r fanyleb gwasanaeth y cytunwyd arni'n genedlaethol, gweithdrefnau gweithredu safonol a safonau hyfforddi. Cânt eu darparu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol hyfforddedig.
- Comisiynir rhaglen hyfforddi rheoli cwyr genedlaethol, a fydd yn cynnwys microsugno a/neu dynnu â llaw gan ddefnyddio chwiliedydd.
- Bydd y llwybr rheoli cwyr newydd yn ategu'r broses o gyflwyno mynediad 'pwynt cyswllt cyntaf' i wasanaethau awdioleg mewn gofal sylfaenol, i gleifion sy'n ceisio cymorth gyda phroblemau clyw, tinitws, a phroblemau cydbwysedd penodol.
- Bydd byrddau iechyd yn gweithredu, monitro ac adolygu'r llwybr a'r modelau gwasanaeth newydd yn eu hardaloedd clwstwr yn awr.
Mae'r argymhellion hyn yn seiliedig ar adolygiadau systematig o'r dystiolaeth orau sydd ar gael a chanllawiau cyfredol NICE, a chan ystyried pa mor gosteffeithiol yw’r ddarpariaeth.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygiad llwyddiannus y llwybr hwn ac yn enwedig i staff sefydliadau’r trydydd sector a'r GIG sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl.
Mae eu cyfraniad at gyflawni'r canlyniadau heriol sydd yn “Cymru Iachach”, “y Fframwaith Gweithredu ar gyfer Clyw” a'r “Model Gofal Sylfaenol” wedi bod yn amhrisiadwy a bydd y llwybr hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.