Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Mae'n bleser gennyf nodi cyhoeddiad Adroddiad Blynyddol 2019-20 a luniwyd gan Yasmin Khan a Nazir Afzal OBE, y Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Mae hyn hefyd yn bodloni un o ofynion Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Mae'r adroddiad yn disgrifio'r cynnydd a wnaed gan y Cynghorwyr Cenedlaethol wrth gyflawni'r amcanion heriol a bennwyd ganddynt yn eu cynllun blynyddol ar gyfer 2019-20. Mae hefyd yn cynnig gwerthusiad o gyflawniadau Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn. Rwy'n falch bod yr adroddiad yn cydnabod y camau breision parhaus a gymerwyd gennym ac yn ddiolchgar iddynt am yr arbenigedd a'r egni y maent yn eu cyflwyno i'w rôl, ac am y cymorth parhaus y maent wedi'i roi i mi a'm swyddogion drwy gydol y cyfnod adrodd.
Gellir gweld yr adroddiad yma: