Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gynlluniau’r byrddau iechyd i gadw dros 5000 o welyau ysbyty ychwanegol ar gyfer gweddill 2020/2021.
Mae cyfnod y gaeaf bob amser yn heriol i’n system iechyd a gofal cymdeithasol. Ond mae COVID-19 wedi ychwanegu dimensiwn arall i’r heriau arferol a ddaw yn sgil y ffliw, tywydd garw a gwaethygiad cyflyrau anadlol cronig sy’n aml yn arwain at gynnydd mewn derbyniadau brys.
Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddais Gynllun Diogelu’r Gaeaf, sy’n amlinellu sut y byddwn yn cydweithio gyda’r system i ddarparu gwasanaethau diogel a gwydn y gaeaf hwn.
Yn y gwanwyn, sefydlwyd 19 o ysbytai maes o amgylch Cymru mewn cyfnod o ychydig wythnosau i ddarparu miloedd o welyau ysbyty ychwanegol ar gyfer y cynnydd sylweddol a ragwelwyd mewn derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer cleifion a oedd yn dioddef o’r feirws. Nodwyd miloedd o welyau hefyd yn ysbytai presennol y GIG a safleoedd ysbyty annibynnol eraill rhag ofn y byddai’r senario achos gwaethaf rhesymol yn cael ei wireddu. Darparwyd ar gyfer cyfanswm o tua 10,000 o welyau ysbyty ychwanegol, sy’n destament i allu’r GIG, a’n partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol, y sector annibynnol, y sector preifat a’r lluoedd arfog a weithiodd ddydd a nos i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Yn ffodus, nid oedd angen y mwyafrif helaeth o’r gwelyau ysbyty ychwanegol bryd hynny. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y cymorth a gafwyd gan y cyhoedd wrth iddynt gydymffurfio â’r cyfyngiadau; sicrhau hylendid da a chadw pellter cymdeithasol; a’r newidiadau yn y modd y cafodd gwasanaethau eu darparu a’u defnyddio gan y cyhoedd. Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am wneud eu rhan.
Wrth inni nesáu at y gaeaf, ac yn dilyn y cynnydd diweddar mewn achosion COVID-19, mae’n debygol iawn y bydd angen capasiti ychwanegol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ymdopi â’r galw cynyddol am wasanaethau. Mae’n rhaid inni sicrhau mynediad at ddigon o welyau ysbyty ychwanegol i reoli unrhyw gynnydd mewn derbyniadau o gleifion sy’n dioddef o COVID-19.
Mae mwy na chwe mis wedi pasio yn awr ers dechrau pandemig COVID-19. Rydym yn dysgu mwy am y feirws bob dydd, a sut i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i Gymru. Yn seiliedig ar fodelu data a’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu o’r brig cyntaf o achosion, gofynnwyd i fyrddau iechyd gadw 5000 o welyau ar draws Cymru i alluogi rheoli’r senario achos gwaethaf rhesymol pe bai cynnydd mawr mewn derbyniadau brys i welyau ysbyty.
Bydd y byrddau iechyd yn cyflawni’r nod hwn drwy gadw deg o ysbytai maes mewn pedwar bwrdd iechyd yng Nghymru gan roi’r gallu i ddarparu oddeutu 2600 o welyau ychwanegol. Yn ogystal â hyn, bydd 2500 o welyau ychwanegol ar gael mewn cyfuniad o gyfleusterau ysbyty presennol y GIG; drwy agor un cyfleuster ysbyty newydd y GIG; a chodi adeilad modiwlar newydd ar safle ysbyty presennol.
Yn ymarferol, ar lefel bwrdd iechyd golyga hyn:
- Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cytuno i gadw Venue Cymru yn Llandudno; Ysbyty Enfys Glannau Dyfrdwy yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy; a Chanolfan Brailsford ym Mhrifysgol Bangor. Bydd nifer o welyau ychwanegol hefyd ar gael yn ysbytai presennol y GIG i sicrhau cyfanswm o 1,198 o welyau ychwanegol.
- Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cadw’r ysbyty maes yng nghyn uned Harman Becker yn Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal â’r gwelyau ychwanegol yn ysbytai presennol y GIG, gan roi cyfanswm o 718 o welyau ychwanegol.
- Oherwydd bod poblogaeth yr ardal ar wasgar, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cadw amryw o safleoedd ysbyty maes bychan ar draws y rhanbarth. Bydd hyn yn cynnwys yr ‘Ysgubor’ ym Mharc y Scarlets, Canolfan Selwyn Samuel yn Llanelli, Bluestone yn Sir Benfro a Chanolfannau Hamdden Aberystwyth ac Aberteifi. Gyda’r gwelyau ychwanegol yn ysbytai presennol y GIG, bydd y Bwrdd Iechyd yn cadw 613 o welyau ysbyty ychwanegol.
- Yn gynharach eleni, gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe waith i drawsnewid Stwidios y Bae yn Abertawe. Bydd y safle hwn yn cael ei gadw gan ddarparu lle i hyd at 818 o welyau os oes angen.
- Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor Ysbyty Athrofaol y Faenor bedwar mis yn gynnar ym mis Tachwedd a gyda’r gwelyau ychwanegol yn safleoedd presennol y GIG, bydd hyn yn darparu oddeutu 942 o welyau ychwanegol.
- Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn adeiladu cyfleuster modiwlar newydd ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn ogystal â’r gwelyau ychwanegol yn safleoedd presennol y GIG a fydd yn darparu cyfanswm o tua 800 o welyau ychwanegol.
- Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi dod o hyd i gapasiti ychwanegol o fewn ei ysbytai presennol ac mae ganddo gytundeb gyda byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau cyfagos i sicrhau mynediad i welyau ysbyty ychwanegol i’w breswylwyr yn ôl yr angen. Bydd hyn yn darparu 210 o welyau ychwanegol.
Yn hanfodol, diben y gwelyau ychwanegol yw galluogi byrddau iechyd i barhau i gynnal llawdriniaethau sydd wedi’u cynllunio ac ymdopi â’r galw am ofal brys a gofal mewn argyfwng yn ystod y gaeaf hanesyddol heriol hwn; yn ogystal â rheoli unrhyw gynnydd posibl yn y nifer o gleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn sgil COVID-19.
Hoffwn ddiolch i’n partneriaid yn yr Awdurdodau Lleol, y sector annibynnol, y sector preifat a’r GIG am eu cefnogaeth barhaus i ganfod a chadw cymaint o welyau ychwanegol ar gyfer gweddill 2020/2021.
Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa a byddwn yn cynnal adolygiad pellach yn dilyn cyflwyno cynlluniau’r byrddau iechyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ystyried unrhyw ofynion ar gyfer cynlluniau pellach o ran gwelyau ychwanegol yn 2021/22.