Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd heddiw y daw cyfyngiadau di-fwg newydd ar gyfer tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai, meysydd chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored i blant i rym o 1 Mawrth 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd hyn yn golygu mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i wahardd smygu mewn meysydd chwarae a thiroedd ysgolion.

Mae cyfyngiadau tebyg ar diroedd ysbytai yn y broses o gael eu gweithredu yn yr Alban.

Mae’r mesurau di-fwg newydd yn anelu at ddiogelu iechyd pobl rhag niweidiau mwg ail-law a dadnormaleiddio ymhellach ymddygiadau smygu i blant a phobl ifanc.

Mae gwaharddiadau smygu gwirfoddol eisoes ar waith mewn nifer o’r lleoliadau hyn ond o fis Mawrth 2021, bydd yn drosedd smygu yn yr ardaloedd hyn. Bydd y gwaith o orfodi’r ddeddfwriaeth hon yn cael ei wneud drwy awdurdodau lleol a fydd bellach â’r pwerau i roi hysbysiadau cosb benodedig.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:

“Mae cefnogaeth gref ymysg y cyhoedd i gyfyngu ar smygu lle mae plant yn debygol o fod yn bresennol. Byddwn yn parhau i gymryd camau i ddadnormaleiddio’r arfer hwn a rhoi neges glir iawn i blant. Mae’r dystiolaeth fod smygu yn niweidiol ac andwyol yn hollol glir ac mae’n rhaid i’n neges fod yn hollol glir hefyd.

“Bydd y cyfyngiadau ar gyfer tiroedd ysbytai yn hyrwyddo newid ymddygiad ac yn cefnogi peidio â smygu ymysg smygwyr sy’n defnyddio ein safleoedd a gwasanaethau ysbytai. Mae cymorth ar gyfer ein gwasanaeth stopio smygu Helpa Fi i Stopio ar gael ar draws y safleoedd hyn, drwy ffonio 0800 085 2219 am ddim, neu drwy fynd i www.helpafiistopio.cymru.

“Mae COVID-19 wedi effeithio ar sawl agwedd ar ein bywydau, ond rydym yn benderfynol o barhau i wneud newidiadau cynaliadwy a chadarnhaol. Er bod y dystiolaeth ar smygu a COVID-19 yn dal i ddod i’r amlwg, yn gyffredinol mae gan smygwyr risg uwch o gael heintiau anadlol, megis COVID-19, ac felly mae cyflwyno’r gofynion hyn yn cefnogi ein hymateb i’r pandemig.

“Rydym yn ymrwymedig i’n nod hirdymor o wneud mwy o fannau cyhoeddus Cymru yn ddi-fwg, helpu pobl i wneud newidiadau cadarnhaol nid yn unig i’w bywydau eu hunain, ond hefyd i iechyd a lles eu plant a’u teuluoedd.”

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn disodli cyfyngiadau presennol ar smygu mewn gweithleoedd a mannau cyhoeddus caeedig a sylweddol gaeedig, ac mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ymestyn y cyfyngiadau ar smygu i fangreoedd neu gerbydau ychwanegol.