Polisi a strategaeth, Dogfennu
Cynllun gwaith polisi trethi 2017
Mae’r cynllun gwaith hwn yn amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer blwyddyn gyntaf fframwaith polisi treth Llywodraeth Cymru. Ymgymerir â rhai blaenoriaethau ymchwil dros sawl blwyddyn.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 88 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Codi refeniw i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus
- Erbyn Hydref 2017, cyhoeddi’r cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir, gan gynnwys y gordal ar gyfer cyfraddau uwch, a’r cyfraddau ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi.
Cyflawni’r amcanion polisi a amlinellwyd yn Symud Cymru Ymlaen: Ffyniannus a Diogel
- Adolygu rhyddhad ardrethi i fusnesau bach er mwyn datblygu trefniadau parhaol o 2018 ymlaen.
- 3. Parhau i ddadlau’r achos dros ddatganoli’r Doll Teithwyr Awyr, a datblygu rhagor ar y sylfaen o dystiolaeth er mwyn cefnogi’r achos.
- Archwilio i ganfod a allai’r system dreth ddatganoledig helpu i roi cymhellion ar gyfer cartrefi sy’n fwy effeithlon o ran ynni.
- Ystyried yr achos dros gyflwyno trethi newydd yng Nghymru, gan archwilio’r elfennau polisi a’r elfennau gweinyddol a’r mecanwaith ar gyfer newid.
Cyflawni’r amcanion polisi a amlinellwyd yn Symud Cymru Ymlaen: Iach ac Egnïol
- Yn 2017 a 2018, gweithio gyda Llywodraeth y DU i helpu i gefnogi cyflwyno Ardoll y Diwydiant Diodydd Meddal yn llwyddiannus yng Nghymru.
Cyflawni’r amcanion polisi a amlinellwyd yn Symud Cymru Ymlaen: Unedig a Chysylltiedig
- Gweithio gyda llywodraeth leol i adolygu’r dreth gyngor er mwyn ei gwneud yn decach.
- Pan fydd gan ACC ddigon o ddata, bydd yn dadansoddi data’r dreth trafodiadau tir o safbwynt gordal y gyfradd uwch fesul awdurdod lleol. Gellid defnyddio hyn yn sail i drafodaethau gydag awdurdodau lleol ynghylch gweithrediad y gyfradd uwch.
Ymgysylltu â threthdalwyr Cymru er mwyn sicrhau bod cyfraith treth yn glir a’i bod yn cael ei gweinyddu yn effeithlon
- Yn ystod 2017, ymgynghori ar y defnydd o bwerau troseddol gan Awdurdod Cyllid Cymru yn rhan o’r dull o fynd ati i orfodi trethi Cymreig.
Gwella’r sylfaen o dystiolaeth
- Datblygu arfau dadansoddol er mwyn cefnogi datblygiad polisi treth incwm yng Nghymru.
- Adolygu’r dystiolaeth ar gyfer pennu’r cydbwysedd trethiant rhwng incwm ac eiddo.
- Archwilio i ganfod a allai gwahanol ddulliau o fynd ati i drethu eiddo annomestig, megis trethu gwerth tir, ddod â buddiannau i Gymru.
- O fis Hydref, gweithio gyda’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru i adolygu’r ffactorau a’r tueddiadau economaidd-gymdeithasol a allai effeithio ar sylfaen dreth Cymru, a’r ffactorau a allai helpu i gynyddu’r sylfaen dreth yng Nghymru.