Polisi a strategaeth, Dogfennu
Cynllun gwaith polisi trethi 2018
Mae'r cynllun gwaith hwn yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer ail flwyddyn fframwaith polisi treth Llywodraeth Cymru.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 93 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
A) Codi refeniw i gyfrannu at gyllideb Llywodraeth Cymru
- Datblygu prosiect gweithredu cyfraddau treth incwm Cymru 2018 dan arweiniad CThEM, gan gynnwys ymgysylltu â'r trethdalwyr.
- Gosod cyfraddau treth incwm cyntaf Cymru ar gyfer gwanwyn 2019.
- Parhau i ddatblygu offer dadansoddi i gefnogi'r gwaith o lunio polisi trethi datganoledig a rhagweld refeniw, gan gynnwys adolygiad gan gymheiriaid a sicrwydd annibynnol o fodel treth incwm ac asesiad o fodelau treth wedi'u datganoli'n llawn yng ngoleuni'r wybodaeth alldro.
- Camau nesaf y ddarpariaeth rhagweld annibynnol i gyd-fynd â phroses y gyllideb.
B) Datblygu polisi a strategaeth treth Cymru
- Datblygu gwaith ar y syniadau am drethi newydd i Gymru, gan gynnwys profi system Deddf Cymru 2014.
- Parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU ynghylch yr achos i ddatganoli toll teithwyr awyr i Gymru.
- Ystyried polisi treth ehangach y DU a'i effaith ar sefyllfa gyllidol Cymru, gan gynnwys ardoll y diwydiant diodydd meddal; yr ardoll brentisiaethau a strwythur newidiol polisi treth y DU wrth iddi baratoi i ymadael â'r UE.
- Ystyried effaith a goblygiadau newidiadau wrth weinyddu trethi ar draws tirlun dreth y DU, gan gynnwys digideiddio trethi.
- Ystyried y rôl y gall trethi Cymru ei chwarae wrth gefnogi amcanion iechyd a llesiant y cyhoedd Llywodraeth Cymru.
C) Datblygu polisi trethi lleol, gan gynnwys wrth ddiwygio cyllid llywodraeth leol yn ehangach
- Gweithio i adolygu'r dreth gyngor i'w gwneud yn fwy teg, gan gynnwys sicrhau bod awdurdodau lleol yn mynd ati'n fwy rhagweithiol gan ganolbwyntio ar y dinesydd wrth reoli ôl-ddyledion.
- Gweithredu rhyddhad ardrethi busnesau bach sydd wedi'i dargedu'n well ym mis Ebrill 2018. Parhau i ddatblygu'r cynllun y tu hwnt i 2018 er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion Cymru.
- Ystyried a fyddai ffyrdd gwahanol o fynd i'r afael â threthi lleol yng Nghymru yn arwain at fanteision, fel treth gwerth tir, treth incwm lleol a threthi eraill.
D) Gweinyddu trethi lleol a chenedlaethol a reolir yng Nghymru yn effeithiol
- Sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru yn llwyddiannus ar 1 Ebrill 2018 i gasglu a rheoli'r ddwy dreth newydd eu datganoli – treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi.
- Ystyried ffyrdd newydd o atal efadu trethi, osgoi artiffisial a gwella cydymffurfiaeth holl drethi Cymru, gan gynnwys:
- Mesurau i fynd i'r afael ag efadu ac osgoi ardrethi annomestig
- Monitro'r gwaith o weithredu deddfwriaeth newydd i sicrhau ei bod yn gweithredu yn ôl y bwriad, ac nad yw'n creu cyfleoedd ar gyfer osgoi
- Rhoi pwerau priodol i ymchwilio a goruchwylio i Awdurdod Cyllid Cymru
- Awdurdod Cyllid Cymru i gasglu a dadansoddi data i gadarnhau graddau'r osgoi, yr efadu a'r diffyg cydymffurfiaeth o ran y trethi datganoledig
- Edrych tuag at gysondeb mewn ffordd effeithiol a theg i reoli dyledion ar gyfer trethi Cymru.
- Ystyried cyfleoedd i rannu data ac i gydweithio ar draws ystod o drethi Cymru a chyda sefydliadau yn y maes rheoli treth i gefnogi cydymffurfiaeth, gorfodi a phrofiad y cwsmer.
E) Ymchwil a thystiolaeth
- Datblygu ffordd strategol hirdymor o fynd i'r afael â blaenoriaethau, tystiolaeth a dadansoddi trethi Cymru er mwyn darparu fframwaith ar gyfer ystyriaethau polisi a gweithredu wrth symud ymlaen, yn ystod cam cyntaf gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o gynllun gwaith 2017.
- Datblygu fframweithiau gwerthuso er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i ddiwallu ei hymrwymiad i adolygu'r trethi datganoledig o fewn tair i bum mlynedd o fis Ebrill 2018.