Cynllun gwaith polisi trethi 2019
Mae'r cynllun gwaith hwn yn amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer trydedd flwyddyn fframwaith polisi treth Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Mae polisi trethi Llywodraeth Cymru yn cael ei ddatblygu yn unol â’r egwyddorion a amlinellwyd yn ein Fframwaith Polisi Trethi, gan gynnwys ein nod o wneud hynny drwy ymgysylltu a chydweithio.
Mae llwyddiant y gwaith o gyflwyno’r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, a sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, yn ddyledus iawn i gyfraniadau gwerthfawr gan amrediad eang o unigolion a sefydliadau sy’n rhanddeiliaid, gan gynnwys busnesau, gweithwyr proffesiynol ym maes trethi, academyddion a phobl eraill sydd â phrofiad ac arbenigedd.
Wrth i ni geisio datblygu ein hagwedd at drethiant yng Nghymru – er enghraifft ystyried ffyrdd eraill o wella gweinyddiaeth trethi, cryfhau’r cysylltiadau rhwng trethi a meysydd polisi eraill ymhellach, a dal i sicrhau bod ein trethi’n parhau’n deg tra’n darparu’r cyllid angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus – mae ymgysylltu cryf yn parhau’n hanfodol.
Mae cyhoeddi ein cynllun gwaith polisi trethi blynyddol yn rhan bwysig o’r broses gyfathrebu – drwy edrych ar yr hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn, mae’n nodi’r prif feysydd sydd o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn wahoddiad agored i unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu at ein ffordd o feddwl, a helpu i ddylanwadu ar bolisi trethi Cymru.
Os hoffech gyfrannu at unrhyw agwedd ar y cynllun gwaith, cysylltwch â’m tîm yn Nhrysorlys Cymru.
Byddwn yn falch iawn o glywed eich barn.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Cyflwyniad
Mae’r ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu hariannu yn newid, ac mae cyfraniad refeniw a godir drwy drethi Cymru yn dod yn gynyddol bwysig. Cyflwynwyd y trethi Cymreig modern cyntaf – treth trafodiadau tir (TTT) a threth gwarediadau tirlenwi (TGT) – ar 1 Ebrill 2018, yn cael eu casglu a’u rheoli gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), ac ar 6 Ebrill 2019 bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn dechrau casglu cyfraddau treth incwm Cymru. Ynghyd â’r trethi lleol sydd wedi’u datblygu er 1999 – y dreth gyngor ac ardrethi annomestig – bydd y rhain yn codi tua £5 biliwn i wasanaethau cyhoeddus Cymru, gan gryfhau’r cysylltiad rhwng datblygu economaidd yng Nghymru a’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol (fel y nodwyd yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb, tudalen 5).
Ym Mehefin 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Fframwaith Polisi Trethi, sy’n nodi sut rydym yn ceisio datblygu dull strategol, integredig ac effeithiol o ymdrin â threthi yng Nghymru, ac yn dangos cyfeiriad hirdymor clir, sy’n seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn. Dylai trethi Cymru:
- Godi refeniw i gyllido gwasanaethau cyhoeddus mor deg â phosibl.
- Cyflawni amcanion polisi presennol Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi twf a swyddi.
- Bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml.
- Cael eu datblygu trwy gydweithredu ac ymwneud.
- Cyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal.
Mae’r gwaith hwn yn cysylltu â’r fframwaith ar gyfer trethu lleol, y nodir ein huchelgeisiau ar ei gyfer yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru (mae Symud Cymru Ymlaen yn cynnwys ymrwymiadau penodol sy’n ymwneud â threthi lleol a chyllido llywodraeth leo, tudalennau 4 ac 13).
Mae ein polisi’n seiliedig ar raglen o ymchwiliadau, a gyhoeddir fel cynlluniau gwaith polisi trethi blynyddol. Mae’r meysydd o ddiddordeb yn cynnwys edrych sut y gall trethi Cymru integreiddio’n effeithiol â meysydd polisi eraill i godi refeniw yn deg, y cyfleoedd ar gyfer trethi newydd a fyddai’n helpu i gefnogi uchelgeisiau polisi ehangach, ac adolygu’r system drethi ledled Cymru er mwyn canfod meysydd y gellid eu gwella. Ystyriaeth ehangach arall yw sut y gallwn annog sylfaen drethu gryfach yng Nghymru i gefnogi gwariant cyhoeddus. Mae’r hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn yn cael ei grynhoi yn adroddiadau polisi trethi 2017 a 2018. Dyma’r trydydd cynllun gwaith polisi trethi blynyddol, ac mae’n ymdrin â’r bwriadau ar gyfer blwyddyn galendr 2019. Bydd rhai casgliadau yn arwain at oblygiadau uniongyrchol a di-oed i gyllideb Llywodraeth Cymru, tra mae eraill yn gasgliadau mwy hirdymor ac yn debygol o barhau mewn cynlluniau gwaith yn y dyfodol. Unwaith eto, bydd adroddiad yn crynhoi’r prif ganfyddiadau yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â’r Gyllideb ddrafft yn yr hydref.
A. Datblygu polisi trethi sy’n codi refeniw i gyllido gwasanaethau cyhoeddus mor deg ag sy’n bosibl, yn gyson â blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru
Yn 2017, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil i wytnwch sylfaen drethu Cymru, yng nghyd-destun datganoli pwerau trethi. Cyhoeddodd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ei dadansoddiad ym Mai 2018, gan dynnu sylw at y risgiau hirdymor i sylfaen drethu Cymru ac amlinellu rhai meysydd y gellid eu hystyried. Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r awduron i adeiladu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r heriau hyn yn fewnol ac yn allanol yn ystod 2018.
- Byddwn yn datblygu ac yn rhannu ein cynigion i adeiladu sylfaen drethu Cymru yn y tymor canolig a’r tymor hir.
- Byddwn yn datblygu fframwaith polisi ehangach i ystyried trethiant tir ac eiddo amhreswyl, ar sail tystiolaeth sydd wedi’i chyhoeddi’n barod (gan gynnwys adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru), yn ymchwilio i drethi lleol amgen, ac yn sicrhau bod hyn yn gydnaws â’r cynnydd rydym yn ei wneud er mwyn datganoli pwerau dros dreth ar dir gwag i Gymru.
- Byddwn yn dal i ystyried y dystiolaeth ar drethiant eiddo preswyl, gan gynnwys eiddo nad ydynt yn brif eiddo preswyl. Bydd ACC yn cyhoeddi data’r flwyddyn gyntaf ar gyfraddau TTT uwch mewn gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol, a byddwn yn dal i fonitro effeithiolrwydd deddfwriaeth yn y maes hwn (y naill a’r llall o gynllun gwaith 2017).
- Wedi i gyfraddau treth incwm Cymru fynd yn fyw ar 6 Ebrill 2019, byddwn yn parhau i weithio gyda CThEM er mwyn sicrhau rheolaeth effeithiol. Byddwn yn ceisio hybu tegwch mewn polisi trethi ar gyfer holl drethi Cymru, gan barhau â’r gwaith ar yr opsiynau cyllido ar gyfer gofal cymdeithasol yn y dyfodol, gweithredu ein hagenda trethiant lleol, a hybu dull blaengar sydd wedi’i ystyried yn ofalus ar gyfer trethi personol.
- Byddwn yn dal i sicrhau bod y gwaith o ddatblygu polisi trethi yn gydnaws â meysydd polisi eraill. Byddwn yn parhau i ddadlau dros ddatganoli’r doll teithwyr awyr i Gymru; yn bwrw ymlaen â’r dreth dwristiaeth a’r agenda trethiant lleol; ac yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar blastigau untro a threthi amgylcheddol eraill.
B. Creu agwedd fwy effeithiol a chydgysylltiedig at drethi ar draws y trethi Cymreig presennol ac ar draws y dirwedd drethi ehangach
- Rydym wedi gwneud nifer o welliannau i system drethi Cymru yn 2018, gan gynnwys addasiadau i’r ddeddfwriaeth, gwelliannau i ganllawiau ACC a gwasanaethau fel y ffurflen TTT. Byddwn yn dal i fonitro a yw trethi Cymru’n gweithio fel y bwriadwyd iddynt weithio, ac yn gwneud newidiadau fel y bo’n briodol.
- Byddwn yn adeiladu’r sail dystiolaeth i ystyried a allai system drethi Cymru fod yn fwy effeithlon a chymesur, a chyflawni mwy i fusnesau, cymunedau, dinasyddion, sefydliadau’r sector cyhoeddus ehangach a threthdalwyr yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn yn ceisio edrych ar draws trethi Cymru a bydd yn cynnwys:
- Cyhoeddi amcanion ar gyfer gweinyddu trethi lleol.
- Ymgysylltu â busnesau, trethdalwyr a grwpiau cynrychioladol ledled Cymru, gan gyfathrebu newidiadau i’r system drethi a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar fusnesau.
- Ystyried y ddadl dros fabwysiadu agwedd fwy strategol a chydgysylltiedig at flaenoriaethau gweinyddu trethi yn y tymor canolig.
- Byddwn yn ystyried opsiynau i ddatblygu adnoddau gwybodaeth, gan gynnwys rhannu a dadansoddi data, i gryfhau’r sail dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau polisi trethi a gwella’r gwaith o weinyddu trethi yng Nghymru. Bydd ACC yn ymhelaethu ar ei rôl a’i flaenoriaethau yn y cyswllt hwn yng nghynllun corfforaethol 2019-22.
- Byddwn yn sefydlu mecanweithiau llywodraethu y cytunwyd arnynt gyda Llywodraeth y DU ar gyfer y gwaith parhaus o weinyddu cyfraddau treth incwm Cymru ar ôl iddynt ddod i rym yn Ebrill 2019, ac yn fwyaf arbennig, cyhoeddi cytundeb lefel gwasanaeth CThEM a sicrhau ymrwymiad iddo.
C. Ymgysylltu, cyfathrebu a meithrin gallu
- Rydym yn ymdrechu i sicrhau agwedd sy’n seiliedig ar arferion gorau tuag at ein pwerau trethi, er enghraifft ein proses dryloyw ac allblyg o lunio polisi trethi. Yn 2019, byddwn yn adeiladu ar hyn er mwyn gwella’r ffordd y mae trethi Cymru’n cael eu cynllunio a’u gweithredu, gan integreiddio polisïau a dulliau gweithredu, a’r cyswllt rhwng polisi trethi a pholisïau eraill, i’r graddau y mae hynny’n bosibl. Mae ACC mewn sefyllfa dda i gefnogi hyn, a bydd yn ymhelaethu ar ei rôl yn hyn o beth yng nghynllun corfforaethol 2019-22.
- Byddwn yn datblygu’r gynulleidfa sylfaenol ar gyfer ymgysylltu ynglŷn â materion trethiant, gan hybu dadl gadarnhaol dros drethiant drwy ddangos y cysylltiad rhwng trethi a gwariant ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
- Ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid er mwyn cynyddu dealltwriaeth o’n hagwedd at drethiant a’n galluogi i ddatblygu polisi trethi drwy gydweithredu a chynnwys.
- Datblygu naratif yn ymwneud â threthi a gwariant sy’n cael ei gefnogi gan randdeiliaid a dinasyddion yn ehangach, ac y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o drethi Cymru ledled Cymru.
- Byddwn yn datblygu cynllun hirdymor i adeiladu capasiti a gallu yng Nghymru yng nghyswllt polisi trethi a gweinyddu trethi yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan ganolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau a chael dadl sy’n seiliedig ar ffeithiau.
- Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod polisi trethi’r DU, a phenderfyniadau ynglŷn â’r trethi datganoledig cyfatebol, yn cael eu deall a’u rheoli’n effeithiol yng Nghymru.
- Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill, yn ogystal â phartneriaid rhyngwladol, er mwyn rhannu ymarfer da, cydweithio i fynd i’r afael â heriau cyffredin, a hybu egwyddorion ein polisi trethi a’n dull strategol o ddatblygu polisi trethi.
Rhagor o wybodaeth a manylion cysylltu
Mae gwybodaeth am drethi Cymru i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gallwch gysylltu â ni drwy gyfrif twitter Trysorlys Cymru @TrysorlysCymru neu drwy ebost: TrysorlysCymru@llyw.cymru
WG37209
© Hawlfraint y Goron 2019