Rydym yn tynhau’r cyfreithiau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thor-faen fel ymateb i’r cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Daw’r cyfyngiadau lleol i rym o 6pm yfory (Dydd Llun, 28 Medi).
Bydd y cyfyngiadau’n effeithio ar bawb sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thor-faen ac yn cynnwys:
- Ni fydd pobl yn cael gadael yr ardaloedd hyn, na dod i mewn iddynt, heb esgus resymol, fel teithio ar gyfer gwaith neu addysg;
- Os ydych am gwrdd â phobl sydd ddim yn byw gyda chi, rhaid cwrdd yn yr awyr agored, am y tro. Fydd pobl ddim yn cael ffurfio na bod mewn aelwyd estynedig (neu ‘swigen’). Mae hynny’n golygu na fydd pobl yn cael cwrdd dan do (yn nhai pobl, mewn tafarn neu rywle arall) â phobl nad ydyn nhw’n byw gyda nhw heb reswm da, fel gofalu am berson bregus.
- Rhaid i bob safle trwyddedig roi’r gorau i werthu alcohol am 10pm.
- Rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn lleoedd dan do sy’n agored i’r cyhoedd, fel siopau, yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus – fel ag yn ngweddill Cymru. (Bydd rhai eithriadau, fel pobl sydd ag anableddau neu â chyflyrau meddygol – fel ag ar drafnidiaeth gyhoeddus)
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Yn sgil y cynnydd gofidus yn nifer yr achosion o’r coronafeirws ym mhob rhan o’r De, cymeron ni gamau ddydd Gwener i gyflwyno cyfyngiadau lleol yn Llanelli a daw cyfyngiadau lleol i rym yn ein dwy ddinas fwyaf – Caerdydd ac Abertawe – heno.
“Rydym ni nawr yn cymryd camau pellach ac yn cyflwyno cyfyngiadau lleol mewn tair ardal arall yn y De – Castell-nedd Port Talbot, Tor-faen a Bro Morgannwg – gan fod cyfraddau’n codi yn y tair ardal. Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn ffinio ag ardaloedd awdurdodau lleol lle mae’r cyfraddau lawer yn uwch.
“Mae cyflwyno cyfyngiadau mewn unrhyw ran o Gymru wastad yn benderfyniad aruthrol o anodd i’w wneud. Ond rydyn ni’n gweithredu i ddiogelu iechyd pobl ac i geisio torri’r gadwyn heintio a rhwystro’r sefyllfa rhag gwaethygu.
“Nid cyfyngiadau rhanbarthol mohonynt – rydym wedi creu cyfres o gyfyngiadau lleol i ymateb i gynnydd penodol yn yr ardaloedd dan sylw. Mae natur unigryw a gwahanol yn y gadwyn heintio ym mhob ardal. Mewn rhai lleoedd, fel Caerffili a Chasnewydd, rydyn ni wedi gweld cwymp go iawn ac os bydd hynny’n parhau, y gobaith yw dechrau llacio’r cyfyngiadau.
“Mae’n arbennig o bwysig fod pawb yn cadw at y rheolau yn eu hardal. Mae angen help pawb arnon ni i gael rheolaeth ar y coronafeirws. Rhaid i bawb gyd-dynnu a chadw at y mesurau sydd wedi’u gosod i’ch diogelu chi a’ch anwyliaid.”
Mae cyfyngiadau lleol ar waith eisoes mewn saith ardal arall yn y De – Blaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Llanelli yn Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd.
Daw cyfyngiadau i rym yng Nghaerdydd ac Abertawe am 6pm heno (Sadwrn, 27 Medi).
Mae’r rhan fwyaf o’r De bellach felly o dan gyfyngiadau lleol – er yr un yw’r cyfyngiadau ym mhob awdurdod lleol, nid yw hynny’n golygu bod pobl o un ardal o dan gyfyngiadau lleol yn cael mynd i ardal arall o dan gyfyngiadau lleol oni bai bod ganddyn nhw esgus resymol, fel teithio ar gyfer gwaith neu addysg.
Bydd holl fesurau’r cyfyngiadau lleol yn destun adolygiad cyson. Yr awdurdodau lleol a’r heddlu fydd yn gyfrifol am eu gorfodi.
Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gadw golwg ar y sefyllfa yn y Gogledd. Mae nifer yr achosion yno lawer yn is nag yn y De, ond mae yna dystiolaeth bod y coronafeirws ar gynnydd mewn rhannau o’r rhanbarth.
Cadwch Gymru’n ddiogel trwy:
- Cadw pellter bob amser
- Golchi’ch dwylo’n aml
- Gweithio gartref os medrwch
- Cadw at gyfyngiadau lleol
- Cadw at y rheolau ynghylch cwrdd â phobl
- Aros gartref os bydd gennych chi neu aelod o’ch aelwyd estynedig symptomau.