Mae Gweinidog Iechyd Cymru yn annog y cyhoedd i helpu i 'Ddiogelu'r GIG' a chadw gwasanaethau yn rhydd i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Ledled Cymru, mae byrddau iechyd a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gweld bod ymddygiad pobl a'r galw ar wasanaethau yn dychwelyd at fel yr oeddent cyn dechrau'r cyfyngiadau coronafeirws.
Gan rag-weld gaeaf heriol ac unigryw yn sgil effeithiau ychwanegol COVID-19, gofynnir i bobl helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf drwy ddefnyddio gwasanaethau eraill yn lle Adrannau Achosion Brys pan nad yw'r sefyllfa yn peryglu bywyd nac yn ddifrifol.
Yn ôl byrddau iechyd Cymru, gallai tua 20-30% o gleifion sy'n mynd i Adrannau Achosion Brys gael eu trin yn well rywle arall neu mewn ffordd wahanol.
Fel rhan o'r ymgyrch Diogelu'r GIG, mae pobl yn cael eu cynghori i archebu eu presgripsiwn 7 diwrnod ymlaen llaw; defnyddio eu fferyllfa a'u meddygfa GIG leol ar gyfer salwch ysgafn neu fân anafiadau, a mynd ar wefan 111 / Galw Iechyd Cymru neu eu ffonio i gael cyngor iechyd am ddim drwy wirwyr symptomau ar-lein ar gyfer mân anhwylderau.
Dylai pobl ddal i fynd i'r ysbyty pan ofynnir iddynt wneud hynny i barhau â'u triniaeth neu i'w hadolygu. Mae ysbytai wedi cymryd cyfres o gamau priodol i ddiogelu pobl, gan gynnwys trin pobl sydd â COVID-19 neu yr amheuir bod ganddynt COVID-19 ar wahân i'r rhai sydd ddim â'r feirws, er mwyn atal y risg o'i ledaenu.
Hefyd, mae pobl sydd â symptomau COVID-19 yn cael eu hatgoffa i beidio â mynd i'w fferyllfa, eu meddygfa na'r Adran Achosion Brys leol. Yn hytrach, dylent archebu prawf drwy 119 a ffonio 111 os bydd y symptomau'n parhau neu os na allant ymdopi gartref.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:
Mae'n hanfodol bod ein Hadrannau Achosion Brys a'n gwasanaethau ambiwlans argyfwng yn cael eu cadw i'r rhai sydd mewn sefyllfa ddifrifol neu sefyllfa sy'n peryglu eu bywyd. Nawr yn fwy nag erioed mae gan Adrannau Achosion Brys lai o le gan eu bod yn cadw pellter cymdeithasol, nid yn unig ar gyfer cleifion ond ar gyfer staff hefyd.
Os oes gan rywun gŵyn iechyd sy'n peri pryder iddo ac nad yw'n gwella, gall gysylltu â'i fferyllfa, yr optegydd, gwasanaeth gwefan neu ffôn 111, y feddygfa leol neu ganolfan iechyd i gael ei asesu. Rydym yn erfyn arnoch i gadw ein Hadrannau Achosion Brys yn rhydd i’r rhai sydd â chwynion difrifol fel gwaedu a llosgi difrifol, strôc neu golli ymwybyddiaeth.
Yn ystod y pandemig, roedd pobl Cymru yn ardderchog o ran diogelu'r gwasanaethau hanfodol hyn drwy ddefnyddio 111 neu Galw Iechyd Cymru ac mae angen inni fynd yn ôl i'r ffordd honno o feddwl.
Mae'n gwbl amlwg nad yw’r coronafeirws wedi diflannu. Mae angen inni i gyd gofio bod ein staff a'n gwasanaethau GIG o dan bwysau enfawr o hyd. Dyna pam mae'n bwysicach nag erioed eleni bod pawb yn gwneud ei ran drwy ein helpu ni i'ch helpu chi i gael y gwasanaeth cywir, ar yr adeg gywir, i ddiogelu'r GIG.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:
Wrth i'r gaeaf ddynesu’n gyflym ac ail don bosibl o COVID-19 ar ddechrau, mae'n bwysicach nag erioed bod pobl yn gwneud penderfyniadau doeth wrth ddefnyddio'r GIG. Yn y gwasanaeth ambiwlans, rydym wedi gweld bod lefelau'r galw wedi dychwelyd yn gyflym yn yr wythnosau diwethaf at fel yr oeddent cyn dechrau'r cyfyngiadau coronafeirws, felly mae angen i'r cyhoedd wneud ei ran i leihau'r pwysau ar y gwasanaethau brys. Diben ein gwasanaeth ambiwlans yw helpu pobl sydd â salwch neu anaf difrifol neu bobl y mae eu bywyd mewn perygl.
Mae angen inni neilltuo ein hadnoddau hanfodol iddyn nhw, a allai un dydd fod y chi, eich plentyn, eich rhiant, eich partner neu'ch ffrind. Os nad yw'n achos brys neu'n un sy'n peryglu bywyd, mae yna lawer iawn o wasanaethau eraill heblaw 999 ar gael ichi. Drwy wneud hyn, byddwch yn diogelu'ch hun, pobl eraill a'r GIG.
Mae pobl Cymru hefyd yn cael eu hannog i ddiogelu Cymru ac atal lledaeniad COVID-19 drwy wneud y canlynol:
- cadw pellter bob amser
- golchi dwylo'n rheolaidd
- gweithio gartref pan fo’n bosibl
- dilyn unrhyw gyfyngiadau lleol
- dilyn y rheolau ynghylch cwrdd â phobl
- aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd estynedig symptomau.