Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae pob gaeaf yn anodd i'n cydweithwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond mae COVID-19 yn ychwanegu her newydd, felly rydym yn paratoi at aeaf heb ei debyg.
Wythnos diwethaf, cyhoeddais y 'Cynllun Diogelu ar gyfer y Gaeaf' ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r cynllun hwn yn adeiladu ar y dull pedwar niwed sydd wedi bod yn sail ar gyfer ein trefniadau cynllunio presennol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol hyd yma:
- Niwed o COVID-19 ei hun
- Niwed o system GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi’i gorlethu
- Niwed o leihad mewn gweithgarwch nad yw’n gysylltiedig â COVID-19
- Niwed o gamau / cyfyngiadau cymdeithasol ehangach
Cynllun cyffredinol Llywodraeth Cymru sy'n disgrifio'r blaenoriaethau hyd at fis Mawrth 2021 yw'r Cynllun Diogelu ar gyfer y Gaeaf. Mae'n amlinellu cyfres o gamau y bydd angen i randdeiliaid ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, ynghyd â phartneriaid yn y sector annibynnol a'r trydydd sector, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a'r cyhoedd, eu cymryd i sicrhau ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i ddiogelu Cymru.
https://llyw.cymru/cynllun-diogelur-gaeaf-ar-gyfer-iechyd-gofal-cymdeithasol-2020-i-2021
https://gov.wales/winter-protection-plan-health-and-social-care-2020-2021
Ar ôl cyhoeddi’r Cynllun Diogelu ar gyfer y Gaeaf wythnos diwethaf, gofynnais i Brif Weithredwr GIG Cymru roi canllawiau technegol i sefydliadau’r GIG. Mae'r gofynion penodol ar gyfer y chwe mis nesaf wedi'u gosod yn Fframwaith Gweithredu GIG Cymru Chwarter 3/Chwarter 4 2020-21. Mae angen inni sicrhau cydbwysedd rhwng gweithgarwch COVID-19 a gweithgarwch arall, ac mae'r fframwaith yn gosod y cyd-destun y mae angen i sefydliadau'r GIG gynllunio ar gyfer y gaeaf oddi mewn iddo.
Gofynnwyd i'r GIG lunio'r cynlluniau hyn erbyn 19 Hydref a byddant yn cael eu cyhoeddi gan sefydliadau yn unol â'u systemau llywodraethu arferol. Diben y cynlluniau yw i sefydliadau'r GIG eu defnyddio eu hunain i lywio penderfyniadau'r Bwrdd o ran camau sydd angen eu cymryd i leihau risgiau, mynd i'r afael â nhw a darparu gwasanaethau yn effeithiol yn ystod y gaeaf. Byddant hefyd o gymorth ar gyfer cynlluniau a phenderfyniadau rhanbarthol a chenedlaethol.
Rwyf wedi'i gwneud yn glir na ddylai cynlluniau Chwarter 3/4 fod yn set o gynlluniau 'newydd'; rhaid iddynt adeiladu ar y broses gynllunio chwarterol y mae GIG Cymru wedi'i dilyn hyd yma, gan hefyd lywio'r cyfnod cynllunio hwy hyd at fis Mawrth 2021. Wrth inni baratoi’n ofalus ar gyfer y chwe mis nesaf hyn, bydd hi’n heriol sicrhau y bydd ein cynlluniau wrth gefn, gan gynnwys ar gyfer y gaeaf a phontio o'r UE, yn darparu'r sylfaen angenrheidiol i'n cynnal hyd at wanwyn 2021.
Mae Fframwaith Gweithredu Chwarter 3/Chwarter 4 yn cynnwys mwy o ofynion technegol a gofynion gweithgarwch na'r fframweithiau blaenorol ac fe'i cefnogir gan set ddata ofynnol. Mae Fframwaith Chwarter 3/Chwarter 4 yn cwmpasu ystod o feysydd gan gynnwys:
- Cynlluniau atal ac ymateb lleol, gan gynnwys Profi, Olrhain, Diogelu
- Gwasanaethau hanfodol
- Gofal sylfaenol a chymunedol
- Gofal brys ac argyfwng
- Gweithio gyda phartneriaid
- Cynlluniau o ran capasiti
- Cynlluniau gweithredol ar gyfer y gweithlu
- Cynlluniau ariannol
Does dim gofyniad i gynlluniau Chwarter 3/Chwarter 4 ddyblygu’r hyn y cynlluniwyd eisoes ar ei gyfer, ond dylent fod yn gyson â chynlluniau atal ac ymateb lleol. Disgwylir i gynlluniau Chwarter 3/Chwarter 4 gynnwys crynodeb o’r prif oblygiadau, cerrig milltir a risgiau.
Mae gwasanaethau hanfodol yn bwysig. Mae angen sicrhau y gall pobl ledled Cymru ddefnyddio gwasanaethau os yw'n achos brys ac yn peryglu eu bywyd neu'n cael effaith ar eu bywyd, yn ogystal â gwasanaethau ar gyfer achosion a allai, heb ymyrraeth amserol, arwain at niwed yn fwy hirdymor megis cynnal rhaglenni brechu. I wneud hynny'n ddiogel, bydd angen cynllunio a sicrhau cyflenwadau digonol o gyfarpar diogelu personol, meddyginiaethau, gwaed, nwyddau traul a chyflenwadau eraill sy'n angenrheidiol i drin pobl a lliniaru risgiau COVID-19.
Wrth inni barhau i adfer y system iechyd, mae gwersi gwerthfawr i’w dysgu o’r trawsnewid cyflym sydd wedi bod ers dechrau’r pandemig. Dylai’r gwersi hyn siapio’r broses o ailosod ac adfer gofal sylfaenol a chymunedol dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Rhaid inni barhau i sefydlu egwyddor ‘gofal yn nes at y cartref’ yn y system iechyd drwyddi draw. Heb hyn, mae perygl y byddwn yn ailsefydlu ffyrdd o weithio a oedd gennym cyn COVID-19.
Rydym hefyd yn cydnabod y galw mawr sydd ar ofal brys ac argyfwng yn ystod misoedd y gaeaf, yn sgil damweiniau oherwydd tywydd oerach a chyflyrau anadlol a chyflyrau eraill sy'n cynyddu ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Bydd Model Mynediad newydd Cymru ar gyfer gofal mewn argyfwng, gan gynnwys 'cysylltu'n gyntaf', yn cael ei gyflwyno. Cefnogir hyn gan y chwe amcan ar gyfer gofal brys ac argyfwng a gafodd eu datblygu gyda chymorth cyngor clinigol cadarn.
Mae gweithio gyda phartneriaid yn allweddol. Nid yw'r gymuned iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei chynnal gan un sefydliad ar ei ben ei hun ond yn hytrach gan lawer o wasanaethau i ddarparu gofal integredig. Mae bwriad sy'n gyson â Cymru Iachach yn amlwg o hyd ac rydym wedi cynnal y nodwedd graidd hon. Felly, er y bydd y cynlluniau GIG hyn yn canolbwyntio ar fanylion yr hyn sydd angen ei wneud, bydd hefyd angen iddynt adlewyrchu'r cymorth maent yn ei roi i sefydliadau eraill ac yn ei gael ganddynt, gan gynnwys awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r sector annibynnol.
Mae COVID-19 yn dal yn bresennol ac mae'r bygythiad yn cynyddu wrth i'r hydref ddynesu. Mae gwaith modelu a chyngor yn awgrymu bod angen inni gynllunio ar gyfer 5000 o welyau acíwt ychwanegol a 350 o welyau gofal critigol ychwanegol ledled Cymru y gaeaf hwn. Bydd rhai o'r gwelyau hyn yn cael eu darparu mewn ysbytai maes, tra bydd eraill yn cael eu darparu drwy ehangu safleoedd ysbyty. Rwyf am i sefydliadau ddangos eu capasiti 'ymchwydd' yn lleol ac yn rhanbarthol, gyda chymorth capasiti cadarn o ran y gweithlu.
Fis Mai eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £495m o gyllid ar gyfer y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol i reoli'r ymateb i COVID-19. Fis Awst, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd becyn cyllid sefydlogi, gwerth £800m pellach, i'r GIG er mwyn darparu sicrwydd ariannol o ran amlen adnoddau'r GIG ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol hon.
O blith y cyfanswm cyllid hwn, sef tua £1.3bn, mae £451m wedi'i ddyrannu ar gyfer costau’r flwyddyn ariannol hon hyd yma o ran staffio, paratoi ysbytai maes, profion, cyfarpar diogelu personol a defnydd o'r sector annibynnol. Bydd gweddill y cyllid sydd ar gael nawr yn cael ei ddefnyddio i gefnogi blaenoriaethau cenedlaethol a chynlluniau lleol.