Julie James, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mwy o amrywiaeth ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol.
Roeddwn wedi ei gwneud yn glir y byddai’r gwerthusiad o’r gwaith a gyflawnwyd yng ngham un ein Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn cael ei ddefnyddio fel sail i’n cynlluniau ar gyfer cam dau’r rhaglen honno, er mwyn adeiladu ar ei llwyddiannau a datblygu cyfleoedd newydd i helpu unigolion sy’n awyddus i gefnogi eu cymunedau. Roeddwn i hefyd yn glir na ddylid edrych ar y gwerthusiad fel rhywbeth unigol. Cyhoeddwyd llawer o adroddiadau sy’n nodi rhwystrau i gyfranogi, ac sy’n cyfeirio at gyfleoedd i oresgyn neu leihau’r rhwystrau hynny.
Yn hydref 2019, sefydlais Grŵp Cynghori’r Gweinidog, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, i weithio mewn partneriaeth i ystyried y dystiolaeth a ddarperir gan y Gwerthusiad o gam un y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Ochr yn ochr â hynny, bu’r grŵp yn ystyried dau adroddiad arall, sef adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol ac adroddiad y Bwrdd Taliadau ar Ddadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd nifer o weithdai ledled Cymru i drafod amryw o bynciau a oedd yn ymwneud â bod yn gynghorydd, gan gynnwys cyfathrebu ac ymwybyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad, taliadau cydnabyddiaeth, gweithio mewn modd diogel a hyblyg, a chymorth a dargedir. Y gwerthusiad o’r adroddiadau, ynghyd â’r adborth o’r gweithdai, sydd wedi darparu’r sail ar gyfer cam dau ein Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth.
Er gwaethaf yr oedi a achoswyd gan yr angen i flaenoriaethu wrth ymateb i’r pandemig COVID-19, mae’n dda gennyf allu cadarnhau’r gwaith y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef fel rhan o gam nesaf y rhaglen hon.
Mae’n bwysig cydnabod nad cychwyn ar ein taith yr ydym, ond yn hytrach yn ei pharhau â’r gwaith hwn. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd o ran cyflawni ein hymrwymiad i gefnogi mwy o amrywiaeth, yn benodol:
- Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno absenoldeb teuluol ar gyfer cynghorwyr yn y prif awdurdodau, er mwyn galluogi unigolion i gydbwyso’r rolau pwysig y maent yn eu chwarae mewn cymdeithas â’u cyfrifoldebau fel rhieni.
- Hefyd, ni oedd y wlad gyntaf i gyflwyno arolwg ar gyfer ymgeiswyr ac aelodau etholedig mewn etholiadau llywodraeth leol, er mwyn casglu data pwysig am amrywiaeth yr ymgeiswyr a’r cynghorwyr hynny. Mae’r arolwg hwn wedi cael ei gynnal ddwywaith hyd yn hyn, ac rydym yn parhau i chwilio am ffyrdd o’i wella.
Ni fyddai wedi bod yn bosibl cymryd unrhyw un o’r camau hyn heb gydweithrediad a chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Un Llais Cymru, cynghorau, a chynghorwyr, a’r trydydd sector, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch iddynt am eu cyfraniad a’u cymorth parhaus.
Yn yr ysbryd hwn yr ydym yn cychwyn ar ran nesaf ein taith.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed tuag at sefydlu cronfa i gefnogi pobl anabl sy’n awyddus i fod yn ymgeiswyr ar gyfer swyddi etholedig, er mwyn sicrhau nad fydd y costau y maent yn gorfod eu talu o ganlyniad i’w gofynion mynediad neu gyfathrebu yn cyfrif tuag at derfyn eu costau ffurfiol. Mae hynny wedi golygu y bu’n rhaid gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth, ac rydym yn disgwyl i’r newidiadau hynny gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, gan ei wneud yn bosib rhoi’r gronfa ar waith.
Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn ymgynghori ar fanylion y trefniadau hyn maes o law. Bydd y gronfa yn cael ei sefydlu fel cynllun peilot ar y cyd i gefnogi ymgeiswyr anabl sy’n awyddus i gael eu hethol yn etholiadau llywodraeth leol 2022 ac etholiadau’r Senedd 2021. Rwyf wedi gofyn i Anabledd Cymru weithio gyda ni i ddatblygu manylion y trefniadau ac i symud y prosesau cymorth, asesu, a dyrannu yn eu blaen fel rhan o’r trefniadau peilot. Cynhelir gwerthusiad o’r trefniadau er mwyn inni allu eu gwella yn y dyfodol. Caiff deddfwriaeth ei chyflwyno yn hwyrach yn ystod y flwyddyn i eithrio’r costau hyn o gostau’r ymgeiswyr ar gyfer y ddwy set o etholiadau.
Roedd yr adborth o’r gweithdai a gynhaliwyd ar draws Cymru wedi bod yn glir ei neges nad yw cynghorwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi na’u parchu. Nid ydynt yn credu bod unigolion yn deall rôl y cynghorydd a’r cyfraniad pwysig y mae’n ei wneud ar ran y gymuned. Roedd y cyfranogwyr hefyd yn teimlo bod disgwyl afrealistig ar gynghorwyr i fod ar gael bob awr o’r dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae’r adborth hwn yn adlewyrchu’r sgyrsiau rwyf wedi eu cael gydag unigolion ledled Cymru, ac yn ystod y cam nesaf byddaf yn comisiynu gwaith i ymchwilio’n fanylach i’r materion hyn.
Hefyd, mae’r camau yn yr atodiad cysylltiedig yn cynnwys meysydd yr ydym am roi sylw iddynt drwy Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd ar ei daith drwy’r Senedd ar hyn o bryd:
- y cyfle i rannu swydd wrth gyflawni rhai swyddi yn y prif gynghorau (gan gynnwys swyddi aelod gweithredol ac arweinydd gweithredol)
- dyletswydd ar y prif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriad post a chyfeiriad electronig ar gyfer gohebiaeth pob aelod o’r cyngor
- dyletswydd ar y prif gynghorau i gynhyrchu Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, a’i hadolygu’n rheolaidd
- dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ymysg aelodau eu grŵp
- darlledu rhai cyfarfodydd yn electronig
- ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer presenoldeb o bell mewn cyfarfodydd awdurdodau lleol
- sicrhau darpariaethau sy’n nodi’r cyfnod hiraf posib o absenoldeb ar gyfer pob math o absenoldeb teuluol, ar gyfer aelodau awdurdodau lleol, a’r cyfnod i gael ei bennu o fewn rheoliadau er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyfredol.
Byddwn hefyd yn:
- Cynyddu’r cyfleoedd hyfforddiant a datblygu sydd ar gael i gynghorwyr
- Sicrhau bod cymaint o gydbwysedd â phosibl rhwng bywyd a gwaith drwy gynyddu’r defnydd o bresenoldeb o bell
- Ymchwilio i’r defnydd o gwotâu rhywedd
- Sicrhau bod cynghorwyr, a’u teuluoedd, yn ddiogel wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau
Cafodd y rhaglen hon ei datblygu ar y cyd â’r teulu llywodraeth leol ehangach. Bydd CLlC ac Un Llais Cymru yn cydweithio i adolygu eu protocolau ar barch a chymorth i gynghorwyr ledled Cymru. Maent yn cynnal adolygiad o’u rhaglenni hyfforddi presennol yng ngoleuni’r adborth o’r gweithdai a oedd yn trafod meysydd ychwanegol megis gweithio ar eich pen eich hun. Maent hefyd yn ystyried sicrhau bod y cyfleoedd gorau posibl ar gael i ddysgu ar y cyd a chryfhau’r cysylltiadau rhwng gwahanol haenau llywodraeth leol.
Mae CLlLC hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner ar draws y DU ar yr ymgyrch Moesgarwch mewn Bywyd Cyhoeddus, a bydd Un Llais Cymru yn diweddaru ei ganllawiau ar ‘fod yn gynghorydd lleol’ i’w defnyddio yn yr etholiadau nesaf.
Mae sefydliadau yn y trydydd sector wrthi’n datblygu cynllun monitro ar gyfer Cymru gyfan, sydd â’r nod o ddarparu cyngor, arweiniad, a chymorth i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i’w helpu i gymryd rhan weithredol ym maes gwasanaeth cyhoeddus.
Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gymryd y camau pwysig hyn i wella’r cyfleoedd sydd ar gael i unigolion gymryd rhan mewn democratiaeth leol; codi proffil cynghorwyr ar draws Cymru; a harneisio’r ysbryd sy’n bodoli o fewn ein cymunedau, a ddaeth mor amlwg yn y frwydr yn erbyn COVID-19 yn ddiweddar.
Is-grŵp o’r Grŵp Llywio ar gyfer Adnewyddu Democratiaeth fydd yn goruchwylio’r rhaglen hon.
Atodiad
Amrywiaeth mewn Democratiaeth – Cam 2 – Cynllun Gweithredu
Amcan |
Camau Gweithredu |
Amserlen |
Cynyddu dealltwriaeth o wahanol haenau o lywodraeth yng Nghymru, y rôl y mae pob un yn ei chwarae mewn cymdeithas a sut y maent yn gweithredu
|
Cynnal ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr gyda negeseuon cyffredinol, sydd wedi'u targedu |
Ionawr 2021 ymlaen |
Datblygu cyfres o adnoddau addysgol i gyd-fynd ag ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru |
Hydref 2020 |
|
Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau cynrychioliadol i sicrhau bod dinasyddion tramor cymwys yn ymwybodol o'u hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd |
Parhaus |
|
Cynyddu ymgysylltiad â'r cyhoedd er mwyn:
|
Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i osod dyletswydd ar brif gynghorau i lunio Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'i hadolygu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pob etholiad llywodraeth leol arferol |
Chwefror 2021 |
Gweithio gyda phrif gynghorau i lunio canllawiau a fydd yn cyd-fynd â’r ddarpariaeth yn y Bil sy'n nodi'r hyn sy'n ofynnol fel rhan o Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd |
Parhaus drwy gydol 2020/2021 |
|
Gweithio gyda phrif gynghorau i gyhoeddi eu cyfansoddiad a’u canllaw i’r cyfansoddiad er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd |
Ionawr 2022 |
|
Cynyddu ymwybyddiaeth o rôl cynghorwyr, y cyfraniad a wnânt i gymdeithas a sut i ddod yn gynghorydd |
Cynhyrchu cyfres o ffilmiau byr ar y cyd â rhanddeiliaid sy'n tynnu sylw at rôl cynghorwyr prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned a fydd yn cynnwys:
|
Ionawr 2021 |
Gweithio gyda CLlLC i godi ymwybyddiaeth ymhlith sefydliadau'r sector cyhoeddus o’r manteision i weithwyr ymgymryd â dyletswyddau dinesig ac ystyried a oes camau pellach y gellid eu cymryd i annog cyfranogiad ehangach |
Mawrth 2022 |
|
Cynyddu hyder cynghorwyr eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, bod y disgwyliadau a roddir arnynt yn deg a bod lefelau eu taliadau cydnabyddiaeth yn adlewyrchu’r gwaith a wneir yn briodol
|
Adolygu rôl a thaliadau chydnabyddiaeth cynghorwyr. Yn benodol, bydd yr adolygiad yn edrych ar:
|
Mehefin 2021 |
Mwy o barch a chefnogaeth i'r rhai sy'n sefyll mewn etholiad yng Nghymru a’r rheini sy’n cael hethol
|
Gweithio gyda CLlLC ac Un Llais Cymru ar gyfres o brotocolau i sicrhau bod prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned yn dangos parch at eu haelodau etholedig ac yn eu cefnogi |
Mawrth 2022 |
Helpu i hyrwyddo'r ddogfen ganllaw ar y berthynas weithio rhwng cynghorwyr cymuned a thref a cynghorwyr sir lleol. |
Mawrth 2022 |
|
Rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hybu safonau ymddygiad uchel |
Ionawr 2021 |
|
Parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu a sicrhau bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn delio ag achosion o gam-drin ar-lein |
Chwefror 2021 |
|
Rhaglen hyfforddiant ac ymwybyddiaeth gynhwysfawr ar gael drwy amrywiaeth o lwybrau sydd ar gael i gynghorwyr i’w cefnogi yn eu rôl fel cynghorwyr |
Adolygiad wedi'i gwblhau o'r hyfforddiant a'r datblygiad sydd ar gael i gynghorwyr ar lefel prif gynghorau a chynghorau cymuned gan nodi:
|
Mai 2021 |
Sicrhau bod cynghorwyr yn ymgymryd â hyfforddiant iechyd a diogelwch, hyfforddiant gweithio unigol ac unrhyw beth arall a gynigir i sicrhau eu diogelwch yn ystod etholiadau a phan gânt eu hethol |
Mai 2021 |
|
Nodi ffyrdd o roi cymorth ehangach i gynghorwyr a darpar gynghorwyr i lywio eu penderfyniad i sefyll mewn etholiad |
Defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau mentora a gynhaliwyd yn y gorffennol i ystyried yr opsiynau ar gyfer datblygu rhaglen gymorth a mentora i annog grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gyfranogi mewn bywyd cyhoeddus. |
Mawrth 2021 |
Gweithio gyda CLlLC ac Un Llais Cymru i ddatblygu llwybr ar gyfer cyfranogi gan gydnabod gwahanol gamau yn ystod gyrfa cynghorydd a'r gofynion o ran ymwybyddiaeth / sgiliau ar bob lefel – i gynnwys mentora a chysgodi swyddi |
Mawrth 2021 |
|
Ymchwilio i’r hyn sy’n bosibl o ran cyflwyno hyfforddiant sgiliau i bobl sydd am ddysgu mwy am yr hyn y mae bod yn gynghorydd yn ei olygu a hefyd y strwythur a allai ddarparu'r hyfforddiant |
Mehefin 2021 |
|
Datblygu ac ehangu'r rhaglen arweinyddiaeth bresennol i’r holl aelodau cyngor yng Nghymru |
Mawrth 2021 |
|
Gwneud deddfwriaeth i eithrio treuliau sy’n gysylltiedig ag anabledd rhag cael eu cyfrif tuag at derfyn y treuliau y gall ymgeiswyr eu gwario wrth ymgymryd â’u hymgyrch etholiadol |
Ionawr 2021 |
|
Cyflwyno cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i helpu gyda threuliau a ysgwyddir oherwydd anabledd wrth sefyll mewn etholiad |
Ionawr 2021 |
|
Ymchwilio a oes achos dros eithrio dosbarthiadau gwariant eraill o derfynau costau ymgeiswyr |
Gorffennaf 2021 |
|
Ymchwilio a ddylai’r gronfa mynediad i swyddi etholedig fod ar gael i grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol |
Gorffennaf 2021 |
|
Ymchwilio pa gymorth y gellir ei gynnig i aelodau annibynnol |
Gorffennaf 2021 |
|
Gwella diogelwch cynghorwyr a'u teuluoedd wrth iddynt ymgymryd â'u dyletswyddau cyngor |
Dileu'r gofyniad i gyfeiriadau personol gael eu defnyddio ar bapurau pleidleisio |
Ionawr 2021 |
Rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriadau swyddogol ar wefannau cynghorau ac ar y gofrestr buddiannau yn hytrach na chyfeiriadau personol ar gyfer cynghorwyr |
Ionawr 2021 |
|
Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i unigolion weithio mewn ffyrdd sy'n eu galluogi i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy'n diogelu eu lles a'u llesiant, ac sy'n caniatáu iddynt reoli unrhyw berthynas ofalu neu ag unigolion sy’n ddibynnol arnynt |
Darparu ar gyfer rhannu swyddi gan arweinwyr gweithredol a deiliaid swyddi eraill yn y prif gynghorau |
Ionawr 2021 |
Adolygu'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol o bell yng ngoleuni’r profiad a gafwyd o gyfarfodydd rhithwir yn ystod y pandemig COVID-19 |
Ionawr 2021 |
|
Ymchwilio i’r posibilrwydd i unigolion sefyll mewn etholiad fel rhan o bartneriaeth rhannu swyddi - y rhwystrau a'r cyfleoedd |
Rhagfyr 2021 |
|
Gwneud rheoliadau diwygio mewn perthynas ag absenoldebau teuluol i ymestyn y cyfnod absenoldeb sydd ar gael i gynghorwyr ar gyfer absenoldeb mabwysiadu |
Mawrth 2021 |
|
Adolygu'r trefniadau ar gyfer absenoldebau teuluol i gynghorwyr i ganfod a oes camau pellach y gellid eu cymryd |
Mawrth 2021 |
|
Sicrhau bod awdurdodau lleol ac arweinwyr yn ymwybodol o'u dyletswydd i roi sylw i ganllawiau o dan adran 38 o Ddeddf 2000 |
Mawrth 2021 |
|
Cynyddu cyfleoedd i fenywod chwarae rhan lawn wrth gefnogi a chynrychioli eu cymunedau |
Ymgynghori ar y defnydd o gwotâu rhyw ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru |
Mai 2021 |
Ysgrifennu i Lywodraeth y DU ynghylch ymestyn y cymal machlud yn adran 104(7) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chychwyn adran 106 o'r un Ddeddf |
Wedi’i gwblhau |
|
Asesu effeithiolrwydd y darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â chasglu data, ac mewn perthynas â data ymgeiswyr eraill y gellid eu casglu o fewn y fframwaith datganoli presennol er mwyn i bleidiau gwleidyddol gefnogi ymgeiswyr amrywiol mewn etholiadau |
Swyddogion i edrych ar y gwersi a ddysgwyd o arolygon blaenorol ac adolygu a diwygio arolygon sydd i ddod i ddarparu'r dystiolaeth orau |
Ionawr 2022 |