Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi croesawu y mesurau a amlinellwyd heddiw gan y Canghellor am Gynllun Cefnogi Swyddi newydd, ond mae’n rhybuddio nad oes digon o fuddsoddi mewn hyfforddiant yn y cynllun, a bod angen mawr amdano, a mesurau i helpu i greu swyddi.
Mynegodd y Gweinidog ei siomedigaeth hefyd o’r diffyg cefnogaeth ychwanegol i rai o’r sectorau yr effeithir fwyaf arnynt yng Nghymru, megis dur ac awyrofod, gan rybuddio nad yw y cynllun hwn yn cynnig digon, a’i fod yn rhy hwyr i rai o’r gweithwyr sy’n colli eu swyddi.
Meddai Rebecca Evans y Gweinidog Cyllid:
“Wedi pwyso am ragor o gymorth ar gyfer cymorthdaliadau cyflogau, dwi’n croesawu’r Cynllun Cefnogi Swyddi ond yn pryderu na ddaw gyda buddsoddiad newydd ar gyfer hyfforddi fydd yn hanfodol i ddiogelu bywoliaeth pobl yn y tymor hir.
“Er bod y mesurau munud olaf a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw yn rhwystro’r canlyniadau gwaethaf o fod ar ochr dibyn y ffyrlo, mae angen gwneud mwy i helpu y di-waith ddod o hyd i swyddi newydd ac i gymell cyflogwyr i ddod o hyd i weithwyr newydd. I rai gweithwyr mae’r cyhoeddiad hwn yn rhy hwyr.
Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:
“Tra bo’r cymhorthdal cyflogau yn ddatblygiad i’w groesawu, rydyn ni wedi bod yn galw am gymorth penodol i’r sector, ac nid yw cyhoeddiad heddiw yn gwneud dim i gynnig hynny.
“Mae angen cymorth wedi ei dargedau ar ein sector awyrofod, er enghraifft, sy’n hanfodol i economi Cymru a’r DU a bywioliaeth miloedd o bobl, a heddiw mae nifer o swyddi yn parhau i fod mewn perygl mawr, pan oedd gan y Canghellor gyfle gwirioneddol i gynnig y sicrhad oedd ei angen.
“Mae hefyd yn siom nad yw hyn yn darparu ar gyfer gweithwyr a busnesau pan ddaw i hyfforddi a gwella sgiliau. Mae’n amlwg mai y gweithwyr sydd angen yr help hwnnw fwyaf fydd ar eu colled yn y tymor hir.