Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Trwy gydol y pandemig Covid-19, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu gwasanaethau bysiau, yn gyntaf trwy gynnal rhwydwaith llai i gefnogi teithiau hanfodol, ac yn fwy diweddar gyllid ychwanegol i gynyddu gwasanaethau i gefnogi y broses o ail-agor ysgolion a’r economi ehangach. Mae hyn yn ychwanegol at fesurau trafnidiaeth ehangach gan gynnwys cefnogaeth i wasanaethau trenau a mesurau teithio llesol ychwanegol.
Yn dilyn y cyhoeddiad y mis diwethaf o £10 miliwn yn ychwanegol i gefnogi y broses o ddarparu gwasanaeth llawnach o fis Medi, rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £84.6 miliwn yn ychwanegol i gynnal a datblygu y lefelau uwch hyn o wasanaethau ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol, tra bod llai o alw a chapasiti yn cael effaith sylweddol ar refeniw tocynnau. Daw hyn â chyfanswm ein cymorth ar gyfer gwasanaethau bws eleni i £140 miliwn.
Mae cytundeb newydd wedi ei greu i reoli’r cyllid hwn i sicrhau y gwerth gorau am arian, a chanlyniadau positif o ran y cynnydd yng nghyllid y sector cyhoeddus. Rydym yn ddiolchgar i awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau am eu cefnogaeth a’u hyblygrwydd yn ystod y cyfnodau heriol hyn. Bydd cyhoeddiad heddiw yn sicrhau sefydlogrwydd mwy hirdymor i’r diwydiant, ac yn caniatáu inni barhau i weithio mewn partneriaeth i symud tuag at y drafnidiaeth gyhoeddus integredig y mae pawb am ei weld.
O ystyried yr ansicrwydd ynghylch y galw gan deithwyr yn y dyfodol, refeniw tocynnau, a mesurau cyfyngiadau symud posibl, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio’n agos ag awdurdodau lleol a chwmnïau bysisau i ragweld gofynion cyllid a strwythurau yn y dyfodol ar gyfer sicrhau cefnogaeth y cyhoedd i wasanaethau bysiau. Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i Aelodau wrth i’n hymyraethau i gefnogi teithwyr ar fysiau a chwmnïau bysiau barhau i ddatblygu.