Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd
Hoffwn ddiolch i fusnesau yng Nghymru am y rhan ganolog y maent wedi’i chwarae wrth gadw Cymru yn ddiogel ac wrth gefnogi economi Cymru yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Ers dechrau’r pandemig, rydym wedi gweld busnesau ym mhob cwr o Gymru yn ysgwyddo’r her o’n helpu ni i gyd i ymdopi â’r Coronafeirws. Mae’r ymdrechion a wnaed gan fusnesau yng Nghymru wedi bod yn gwbl anhygoel. Mae llawer o gwmnïau wedi addasu eu ffyrdd o weithio, ac mae’r addasiadau hynny wedi amrywio o’r mathau o gynhyrchion y maent yn eu gwneud o ddydd i ddydd, i feddwl mewn ffyrdd arloesol am sut y gallant ddiogelu ac achub bywydau sy’n cael eu bygwth gan y feirws.
Rydym wedi gweld busnesau’n ymateb i’n cais am gymorth i wneud cyfarpar diogelu personol. Mae’r agwedd "gallu gwneud" ymhlith busnesau yng Nghymru yn golygu eu bod yn rhan hanfodol o’r gadwyn cyfarpar diogelu personol yn ystod y pandemig. Daeth Cymru yn hunangynhaliol am y tro cyntaf o ran cynhyrchu sgrybs wrth i gwmnïau newid neu ehangu’r hyn y maent yn gallu’i gynhyrchu. Aeth distyllwyr ati i gynhyrchu’r hylif diheintio dwylo yr oedd gymaint ei angen, a bu gwerthwyr bwyd a diod annibynnol yn cadw cadwyni cyflenwi lleol i fynd ac yn darparu prydau ar gyfer staff yn rheng flaen y GIG. Aeth cyfanswm o fwy na 30 o gwmnïau ati i addasu’r hyn y maent yn ei wneud, gan helpu i gynhyrchu hylif diheintio dwylo. Bu 25 o gwmnïau wrthi’n gwneud feisorau wyneb ac aeth 30 ati i ddarparu gwasanaethau dihalogi.
Wrth i wisgo masgiau ddod yn fwy cyffredin, ac yn orfodol mewn rhai lleoliadau, mae 9 cwmni wedi buddsoddi mewn llinellau gwaith i gynhyrchu masgiau wyneb o safon glinigol ac anghlinigol. Mis diwethaf, cyhoeddodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ei fod wedi helpu Hardshell − un o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r byd ym maes cynhyrchu cyfarpar diogelu ac amddiffyn fel arfwisgoedd a siwtiau i’w gwisgo wrth waredu ffrwydron − i gael tystysgrifau cynnyrch a fydd yn golygu mai ef fydd y cwmni cyntaf yn y DU i gynhyrchu masgiau wyneb o safon feddygol i’w defnyddio gan staff y GIG, gan wneud hynny o safle yng Nghaerdydd. Y safle hwn fydd yr unig un ym Mhrydain i gynhyrchu anadlyddion FFP3, sy’n cael eu mewnforio ar hyn o bryd yn hytrach na chael eu cynhyrchu ym Mhrydain. Roedd Cymru hefyd yn rhan o’r her ledled y DU i gynhyrchu anadlyddion, ac rwy’n hynod falch bod Canolfan Ymchwil a Gweithgynhyrchu Uwch Cymru ym Mrychdyn wedi cael ei addasu er mwyn helpu gyda’r gwaith hwn.
Rydym yn amcangyfrif bod lefel y stoc cyfarpar diogelu personol sydd gan GIG Cymru bum gwaith yn fwy nag oedd ar ddechrau’r pandemig, ac rydym yn symud yn nes o lawer at fod yn hunanddibynnol o ran y mwyafrif llethol o eitemau diogelu personol. Mae’r ffaith bod busnesau o Gymru yn rhan o’r gwaith cynhyrchu hwn wedi rhoi mwy o sicrwydd inni gan fod gennym gynhyrchion y gallwn ddibynnu arnynt, a hynny ar garreg y drws.
Mae cynifer o fusnesau wedi buddsoddi amser, egni ac arian i sicrhau eu bod yn gallu gweithio mewn ffordd mor ddiogel â phosibl. Wrth i fusnesau ailagor, maent wedi cyfathrebu’n agored â ni. Mae’r adborth a gafwyd oddi wrthynt wedi helpu i lywio’r cyngor yr ydym yn ei baratoi, ac rydym wedi cydweithio â chyrff cynrychioliadol i baratoi canllawiau a fydd yn helpu sectorau wrth iddynt ailagor. Mae’r rhagofalon y mae busnesau wedi’u cymryd a’r camau y maent wedi’u cyflwyno i leihau risgiau ac i sicrhau bod pobl, gan gynnwys gweithwyr cyflogedig, yn teimlo ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd, wedi creu cryn argraff arnaf. Maent wedi arfer disgresiwn ac wedi bod yn gyfrifol ac yn hyblyg iawn, yn enwedig wrth helpu i warchod pobl agored i niwed neu’r rheini sy’n byw gyda nhw.
Mae egwyddorion y Contract Economaidd yn ganolog i’n Cronfa Cadernid Economaidd, ac mae’n hymrwymiad cadarn i ysgogi buddsoddiad ac iddo ddiben cymdeithasol wedi gweld mwy o fusnesau’n ymrwymo i egwyddorion y Contract. Erbyn hyn, mae dros 4,000 wedi ymrwymo i’r egwyddorion, o gymharu â 385 cyn Covid-19. Drwy’r Contract Economaidd, rydym yn rhoi arwydd clir o’n hymrwymiad i ddyfodol digarbon, i wella lefel y sgiliau yn yr economi, ac i greu mwy o Waith Teg er mwyn dileu’r baich a’r stigma sy’n gysylltiedig ag economi sgiliau isel a chyflogau isel. Rydym wedi sicrhau hefyd fod busnesau’n ymrwymo yn yr un modd.
Gwn y bydd ein busnesau’n parhau â’u gwaith rhagorol i gadw Cymru yn ddiogel ac i ddiogelu’n heconomi yn ystod y misoedd sydd i ddod. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gorau glas i’w cefnogi.