Cynllun Masnachu Allyriadau'r Deyrnas Unedig Asesiad Integredig Llywodraeth Cymru o’r Effeithiau: crynodeb
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd a pham?
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd a pham?
Holwch os hoffech weld copi o’r asesiad llawn.
Bydd y fframwaith polisi a gynigir ar gyfer Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU (ETS y DU) a’r ddeddfwriaeth gysylltiedig yn creu marchnad garbon ar gyfer y DU gyfan i annog y sectorau pŵer, diwydiannol a hedfan i leihau’u hallyriadau mewn ffordd cost-effeithiol. Cafodd y polisi ei ddatblygu am y bydd y DU yn gadael System Masnachu Allyriadau’r UE (ETS yr UE) ar ôl diwedd Cyfnod Pontio Brexit. Bydd yn bosibl creu cysylltiadau rhwng ETS y DU ac ETS yr UE ymhen amser, wedi i Lywodraeth y DU drafod yr amodau â’r UE.
Mae systemau masnachu allyriadau’n sicrhau’r egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’ trwy gyfrwng mecanwaith o’r enw ‘capio a masnachu’, lle gosodir terfyn ar faint o nwyon tŷ gwydr penodol y caiff gweithfeydd a hediadau sy’n dod o dan y system eu cynhyrchu. O fewn y terfyn hwn, mae aelodau’n derbyn neu’n prynu lwfansau allyriadau y gallan nhw eu masnachu â’i gilydd yn ôl yr angen. Caiff y terfyn ei ostwng dros amser fel bod cyfanswm yr allyriadau’n gostwng.
Mae’r cynnig ar gyfer ETS y DU yn nodi’r aelodau fydd yn cymryd rhan, uchelgais amgylcheddol y cap a’r lwfansau, y gofynion monitro, adrodd a dilysu a threfn codi tâl, cydymffurfio, gorfodi, cosbi, apelio ac adolygu’r cynllun.
Atal ac integreiddio yn y tymor hir
Mae’r newid yn yr hinsawdd yn fygythiad difrifol i les cenedlaethau heddiw ac yfory trwy’r byd. Mae’r effeithiau amgylcheddol, ecolegol, economaidd, iechyd a chymdeithasol a ddaw yn ei sgil yn amlwg. Mae’r rheini sy’n aelodau o gynllun ETS yr UE yng Nghymru yn gyfrifol am ryw 46% o holl allyriadau Cymru. Mae’r polisi hwn felly’n rhan hanfodol o ymdrechion Llywodraeth Cymru i wireddu’i huchelgais a tharo’r targedau statudol ar gyfer yr hinsawdd.
Bydd rhan gynta’ ETS y DU yn para 10 mlynedd, o 1 Ionawr 2021 tan 31 Rhagfyr 2030. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd tymor hir i aelodau’r cynllun, gan eu helpu i wneud penderfyniadau buddsoddi doeth.
Cydweithredu a chyfranogi
Mae pedair llywodraeth gwledydd y DU a’u rheoleiddwyr wrthi’n cydweithio i greu ‘Fframwaith Cyffredin’ ar gyfer rheoli a datblygu ETS y DU yn y dyfodol.
Bydd ETS y DU yn datgarboneiddio’r sectorau hynny o’r economi sy’n gyfrifol am yr allyriadau carbon mwyaf. Rhaid i’r pedair llywodraeth sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd sy’n diogelu ac yn cryfhau diwydiant yn y DU heb ychwanegu baich allai ei lethu. Bydd y cynllun yn ceisio sicrhau na fydd perygl i ddiwydiannau gau ac achosi’r ergydion economaidd rhanbarthol fyddai’n gysylltiedig â hynny, yn ogystal ag osgoi ysgogi cwmnïau i symud.
Mae’n hanfodol gweithio gyda’r diwydiannau y mae’r polisi’n eu targedu. Cynhaliwyd ymgynghoriad am 10 wythnos rhwng 2 Mai 2019 a 12 Gorffennaf 2019, yn cynnig trywydd ar gyfer prisio carbon yn y DU a gofyn am safbwyntiau ynghylch siâp y cynllun yn y dyfodol. Yn ogystal â’r digwyddiadau a drefnwyd gan Lywodraeth y DU, cynhaliwyd dau yng Nghymru – y naill yn Abertawe a’r llall yn Llandudno.
Yn dilyn cyhoeddi ymateb y Llywodraeth ac yn dilyn digwyddiad ar gyfer y DU gyfan, cynhaliwyd digwyddiad yng Nghymru ar gyfer rhanddeiliaid diwydiannol ar 16 Mehefin 2020 i drafod canlyniadau’r ymgynghoriad.
Ceir ymateb y llywodraethau i’r ymgynghoriad, sy’n cynnwys crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad.
Mae rhanddeiliaid yn cydweithio â thimau polisi, rheoleiddwyr ac aelodau’r cynllun. Ar lefel ymarferol, mae hynny’n cynnwys eu help i brofi’r systemau TG newydd, cefnogaeth i sicrhau bod y cofrestrau a’r trwyddedau sydd eu hangen yn barod a help i sicrhau bod y newid o ETS yr UE i ETS y DU yn digwydd yn esmwyth. Byddwn hefyd yn gofyn i randdeiliaid gyfrannu at adolygiadau ad hoc o’r cynllun ac o’r system gyfan.
Effaith
Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn cynnwys Asesiad Effaith Rheoleiddiol o ETS y DU. O edrych arno’n gyfan, barnwyd y byddai disgwyl i gynllun ar wahân arwain at fanteision mawr o ran datgarboneiddio heb amharu fawr ar allu busnesau a diwydiannau i gystadlu, o’i gymharu â chynllun ETS yr UE. Gallai cynllun cytûn greu marchnad garbon fwy a fyddai’n debygol o esgor ar gostau is i fusnesau.
Caiff nifer o arolygon o ETS y DU eu cynnal ar ôl lansio’r cynllun. Amcan yr arolygon hynny fydd sicrhau bod ETS y DU yn ateb y diben ac yn gwireddu amcanion y polisi.
Costau ac arbedion
Y prif gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ETS y DU o’i gymharu ag ETS yr UE yw’r costau gweinyddol i’r Llywodraeth o’i sefydlu (yn enwedig y systemau TG), costau diwygio neu gyhoeddi trwyddedau a chostau ychwanegol i aelodau’r cynllun oherwydd y risg o gostau carbon uwch o dan ETS ar wahân ar gyfer y DU.
Mae’r systemau TG sy’n cael eu datblygu ar gyfer ETS y DU yn cynnwys cofrestrfa i gadw lwfansau allyriadau a system ar gyfer caniatáu, monitro, adrodd a dilysu (PMRV). Bydd y ddwy system yn cymryd lle systemau’r UE y mae’r DU yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Costau bras sefydlu’r gofrestrfa fydd £3.45 miliwn a £3.25 miliwn fydd cost sefydlu’r system PMRV. Bydd yna gostau ychwanegol o greu cytundeb cytûn, er mwyn gallu cydweithio â systemau’r UE. Daw’r rhan fwyaf o’r arian ar gyfer talu am y ddwy system o gronfa bresennol Llywodraeth y DU ar gyfer ariannu system yr UE. Fodd bynnag, o 2021/22, rhagwelir y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at gostau datblygu’r system PMRV, a chostau gwella’r ddwy system yn y dyfodol. Amcangyfrif o gostau 2021/22 yw £80,000 - £120,000. Wedi hynny, disgwylir i’r costau fod lawer is.
Mae mecanweithiau wedi’u creu fel rhan o’r cynllun er mwyn rheoli eithafion ym mhrisiau carbon. Bydd hynny’n cadw’r cymhellion i ddatgarboneiddio ond yn amddiffyn busnesau rhag costau eithriadol o uchel. Mae hynny’n cynnwys y pris cadw mewn ocsiwn (ARP) o £15 fesul lwfans. Hefyd, caiff lwfansau di-dâl eu neilltuo i rai gweithfeydd diwydiannol i sicrhau eu bod yn parhau’n gystadleuol ar lefel ryngwladol.
Mae’r graddau y bydd y costau hyn yn arwyddocaol i fusnesau unigol yn dibynnu ar amrywiaeth eang o ffactorau ac yn amrywio yn ôl nodweddion y busnes a faint o lwfansau di-dâl a neilltuir iddo. Fodd bynnag, gallai costau carbon uchel yn y tymor byr wella cynaliadwyedd ein sylfaen ddiwydiannol trwy gymell rhagor o arloesedd ac o fuddsoddi mewn technolegau carbon isel a fydd yn eu gwneud yn fwy cystadleuol yn y tymor hir.
Casgliad
Sut mae’r rheini fydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig yn cyfrannu at ei ddatblygu?
Mae’r cynnig ar gyfer ETS y DU wedi’i lunio’n benodol ar gyfer gweithfeydd a sectorau diwydiannol sy’n drwm ar ynni. Ni ddisgwylir iddo gael effaith arwyddocaol ar unigolion na grwpiau penodol o bobl.
Mae pedair llywodraeth gwledydd y DU a’u rheoleiddwyr wrthi’n cydweithio i greu ‘Fframwaith Cyffredin’ ar gyfer rheoli a datblygu ETS y DU yn y dyfodol. Mae’r rheoleiddwyr amgylcheddol a’r rheini fydd yn gyfrifol am reoli’r systemau TG hefyd yn cydweithio ar siâp y cynllun, gan elwa ar eu profiadau gwerthfawr o weithio ar gynllun ETS yr UE.
Byddwn yn parhau i ymgynghori â rhanddeiliaid y diwydiant ar sut i ddatblygu a rhedeg y cynllun. Cynhaliwyd ymgynghoriad 10 wythnos rhwng 2 Mai 2019 a 12 Gorffennaf 2019 oedd yn nodi trywydd a ffefrir ar gyfer prisio carbon yn y DU ac yn gofyn am safbwyntiau ynghylch siâp y cynllun yn y dyfodol. Cafodd digwyddiadau eu cynnal ar gyfer rhanddeiliaid yng Nghymru.
Nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng ETS y DU â strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ond cynhwysir darpariaethau ynghylch y Gymraeg yn yr holl ddeunydd cyfathrebu â rhanddeiliaid, yn unol â Safonau Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Beth yw’r effeithiau mwyaf, da a drwg?
Prif effaith (dda) y cynnig i sefydlu ETS y DU fydd lleihau allyriadau gweithfeydd a sectorau diwydiannol penodol sy’n drwm ar ynni. Mae’r ‘sector masnachu’ y mae’r cynllun masnachu carbon yn effeithio arno yn gyfrifol am ryw 46% o gyfanswm allyriadau carbon Cymru. O’r herwydd, bydd y cynllun yn cyfrannu mewn ffordd arwyddocaol at gwrdd â thargedau lleihau allyriadau Cymru. Mae’r cynllun wedi’i ddylunio i leihau allyriadau i’r graddau mwyaf posibl a chadw’r effeithiau ar allu busnesau i gystadlu mor fach â phosibl. Bydd hefyd yn ceisio osgoi ergydion diangen i aelodau’r cynllun trwy sicrhau bod y trefniadau mor debyg â phosibl i drefniadau ETS yr UE (y bydd y DU yn ei adael ar ddiwedd Cyfnod Pontio Brexit) a thrwy fecanweithiau rheoli prisiau penodol fydd yn rhan o’r cynllun.
Mae effeithiau tymor hir posibl y newid yn yr hinsawdd yn bellgyrhaeddol ac yn hynod arwyddocaol. Bydd ETS y DU yn cyfrannu at leihau effeithiau tymor hir ar yr hinsawdd, adnoddau naturiol a chymdeithas.
Nid oes effeithiau drwg arwyddocaol wedi’u nodi. Efallai y bydd rhai costau ychwanegol ymylol i fusnesau o’u cymharu ag aros yn ETS yr UE.
Yng ngoleuni’r effeithiau a nodir, sut bydd y cynnig:
- yn cynyddu ei gyfraniad at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu
- yn osgoi, lleihau neu’n lliniaru effeithiau negyddol?
Mae ETS y DU wedi’i lunio i gymryd lle ETS yr UE. Bydd yn gyfraniad arwyddocaol at gwrdd â thargedau lleihau allyriadau Cymru. Wrth wneud, bydd yn cyfrannu at Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel a ganlyn:
- Cymru ffyniannus – sicrhau cymdeithas carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd). Mae hyn yn cynnwys datblygu fframweithiau sy’n cymell datgarboneiddio ac sy’n gwneud hynny mewn ffordd sy’n cryfhau diwydiant yng Nghymru ac yn diogelu swyddi.
- Cymru gydnerth – Lleihau’r effeithiau ychwanegol ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol sy’n gysylltiedig ag allyriadau tymor hir.
- Cymru iachach – Osgoi effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd a lles.
- Cymru sy’n fwy cyfartal – Osgoi effeithiau ehangach ac eilaidd y newid yn yr hinsawdd ar gymdeithas.
Profwyd bod y newid yn yr hinsawdd yn cael effaith anghymarus ar rannau mwyaf difreintiedig cymdeithas. Bydd cyfraniad y cynllun hwn at ddatgarboneiddio Cymru’n sicrhau na chaiff yr effeithiau eu gwaethygu. Bydd y cynllun yn ategu hefyd y gwaith a wneir mewn mannau eraill i greu cydraddoldeb yng Nghymru trwy ddiogelu swyddi. - Cymru o gymunedau cydlynus – Cefnogi economïau a chymunedau lleol trwy fynd ati mewn ffordd gynaliadwy i ddatgarboneiddio diwydiant a chadwyni cyflenwi.
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – Cyfrannu at leihau allyriadau’r byd, a pholisi fydd yn osgoi ysgogi busnesau i symud.
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu – bydd yr holl ymwneud â rhanddeiliaid yn cydymffurfio â chanllawiau polisi’r Gymraeg trwy sicrhau cynaliadwyedd yr adnoddau naturiol o fewn ein cymunedau ac amgylcheddau byw. Mae’r cynnig hwn yn cefnogi cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg hefyd yn anuniongyrchol.
Sut caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd yn ei flaen a phan y daw i ben?
Mae Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn nodi bod angen cynnal dau adolygiad mawr o’r system gyfan yn ystod y cyfnod 10 mlynedd. Caiff yr adolygiad cyntaf o ETS y DU ei gynnal o 2023 i asesu perfformiad y system gyfan yn hanner cyntaf y cyfnod (2021-25) gydag unrhyw welliannau angenrheidiol yn cael eu gwneud erbyn 2026; caiff adolygiad llawn ei gynnal yn 2028 i asesu perfformiad y system gyfan ar draws Cyfnod 1 (2021-2030) yn gyfan gyda rheolau ETS y DU yn cael eu diweddaru yn 2031 (Cyfnod II). Bydd yr adolygiadau hyn yn cyd-ddigwydd â’r adolygiadau o Gyfnod IV ETS yr UE a Storcrestr Byd-eang Cytundeb Paris.