Mae tri chynrychiolydd sy’n angerddol dros Gymru wedi cael eu penodi gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo’r wlad dramor.
Mae’r Gweinidog Materion Rhyngwladol, Eluned Morgan, yn dweud ei bod yn “anrhydedd” iddi eu penodi i’w swyddi.
Mae’r cynrychiolwyr yn rhan o Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a phrif elfen honno yw codi ymwybyddiaeth am Gymru ledled y byd.
Trwy weithio gydag unigolion amlwg ac uchel eu parch, mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio tanio ac ennyn diddordeb Cymry Alltud ynghyd â chyn-fyfyrwyr a chyfeillion Cymru mewn gwledydd eraill.
Gobeithir y bydd hyn yn sbarduno mwy o gyfleoedd i fewnfuddsoddi a hyrwyddo allforion Cymru.
Y cynrychiolwyr yw:
- Koji Tokumasu. Bu Koji yn byw yng Nghaerdydd am ddwy flynedd yn y 1970au. Roedd Koji yn allweddol i ddenu Cwpan Rygbi’r Byd i Japan yn 2019 ac mae’n gyn-lywydd Asia Rugby.
- La-Chun Lindsay. Symudodd La-Chun i Gymru i fod yn rheolwr gyfarwyddwr GE Aviation Wales yn 2015 – y fenyw gyntaf i ymgymryd â swydd ar y lefel honno yn y cwmni.
- Aled Miles. Cafodd Aled ei eni a’i fagu ym Mhen-y-bont a symudodd i UDA yn 2006 i ymgymryd â swydd CEO yn Cineflex Camera Systems LLC. Syber-ddiogelwch yw ei arbenigedd.
Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg, Eluned Morgan:
Rwy’n hyderus y bydd y tri chynrychiolydd cyntaf yn ein helpu i agor drysau a chodi’n proffil ledled y byd. Maen nhw wedi cael eu penodi am eu bod gyda’r gorau yn eu priod feysydd.
Mae’n anrhydedd i ni bod Koji Tokumasu, La-Chun Lindsay ac Aled Miles wedi cytuno i gario’r faner droson ni a byddan nhw’n ein helpu i wireddu ein hamcanion o ran mewnfuddsoddi ac allforio gan gyfrannu hefyd at godi ymwybyddiaeth am Gymru a hyrwyddo’r meysydd y mae Cymru’n arbenigo ynddynt.
Bydd yr unigolion hyn yn cael y teitl swyddogol “Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru” ac yn helpu i agor drysau ac yn meithrin perthynas â gwledydd eraill ar draws y byd.
Cafodd y Gweinidog rith-gyfarfod â’r cynrychiolwyr wythnos yma a bydd yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â nhw i gadw bys ar byls eu gwaith.
Caiff pedwerydd cynrychiolydd ei benodi yn yr hydref fel rhan o’r garfan gyntaf o gynrychiolwyr. Ni fyddant yn cael cyflog ond byddant yn cael eu costau teithio a chynhaliaeth.