Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y sefyllfa yn y pedair ardal awdurdod lleol lle rydym wedi bod yn monitro'n agos y cynnydd mewn achosion o'r coronafeirws, sef:
- Caerffili
- Rhondda Cynon Taf
- Merthyr Tudful
- Casnewydd
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym yn awgrymu bod y sefyllfa ym Merthyr Tudful yn sefydlog, ac rydym yn parhau i fonitro'r sefyllfa yng Nghasnewydd yn agos, yn dadansoddi canlyniadau’r profion diweddaraf, yr wybodaeth gan y timau olrhain cysylltiadau ac yn gweithio gyda'r awdurdod lleol ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd.
Hoffwn ganolbwyntio nawr ar y sefyllfa sy'n datblygu yn Rhondda Cynon Taf, lle, yn anffodus, rydym wedi parhau i weld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion. Rydym hefyd nawr yn gweld tystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol.
- Mae hyn er gwaetha'r mesurau y gofynnodd yr awdurdod lleol i'r trigolion eu cymryd yn wirfoddol er mwyn rheoli lledaeniad y feirws.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd achosion newydd dros saith diwrnod yn awr yn 82.1 ym mhob 100,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf. Ddoe, roedd y gyfradd a gafodd brawf positif yn 4.3% – sef y gyfradd uchaf o achosion positif yng Nghymru.
Mae ein timau olrhain cysylltiadau wedi gallu olrhain tua hanner yr achosion hyn yn ôl i gyfres o glystyrau yn y fwrdeistref. Mae’r gweddill yn gysylltiedig â throsglwyddiad cymunedol.
Mae sawl clwstwr o achosion yn Rhondda Cynon Taf, a dau ohonynt yn rhai arwyddocaol. Mae un yn gysylltiedig â chlwb rygbi a thafarn yng Nghwm Rhondda isaf a'r llall yn gysylltiedig â thaith clwb i rasys Doncaster, wnaeth alw mewn cyfres o dafarndai ar y ffordd.
Yn yr un modd â bwrdeistref Caerffili, rydym wedi gweld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion dros gyfnod byr, sy'n bennaf yn gysylltiedig â phobl yn cymdeithasu heb gadw pellter cymdeithasol ac yn cwrdd yng nghartrefi ei gilydd. Rydym hefyd wedi gweld rhai achosion sy'n gysylltiedig â phobl yn dychwelyd o wyliau tramor.
Mae'r awdurdod lleol wedi mynd ati’n rhagweithiol i ymweld ag eiddo ledled y fwrdeistref dros yr wythnos ddiweddaf i weld a ydynt yn cydymffurfio â'r gyfraith a'r mesurau y mae angen i bob un ohonom eu dilyn er mwyn diogelu ein gilydd rhag y coronafeirws.
Mae'r gwiriadau hyn wedi arwain at roi hysbysiadau gwelliant i saith archfarchnad, sydd wedi cydymffurfio â'r hysbysiadau hyn.
- Caewyd bar ym Mhontypridd ar ôl i deledu cylch cyfyng gofnodi nifer o achosion o bobl yn torri'r mesurau; caewyd eiddo trwyddedig yn Nhonypandy, ac mae hysbysiadau gwelliant wedi cael eu rhoi i far arall ym Mhontypridd a siop barbwr yn Nhonypandy.
Aeth swyddogion o'r cyngor i 50 eiddo trwyddedig arall dros y penwythnos, ac mae'n debygol y bydd mwy o gamau gorfodi - naill ai hysbysiadau gwelliant neu orchmynion i gau - yn dilyn.
Gyda'i gilydd, mae'r cynnydd cyflym hwn yn nifer yr achosion gyda thystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf, a thystiolaeth nad yw nifer o eiddo trwyddedig yn y fwrdeistref yn cydymffurfio â'r mesurau, yn golygu bod angen i ni gyflwyno cyfyngiadau lleol yn yr ardal er mwyn rheoli'r feirws, ac yn y pen draw lleihau lledaeniad y feirws a diogelu iechyd pobl.
Gan fod achos y trosglwyddo yn debyg i'r hyn a welwyd ym mwrdeistref Caerffili, bydd y cyfyngiadau yn debyg.
Bydd camau'n cael eu cymryd i atal eiddo trwyddedig yn Rhondda Cynon Taf rhag aros ar agor yn hwyr.
O 6pm yfory, daw'r cyfyngiadau lleol canlynol i rym ar gyfer pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf:
- Ni fydd pobl yn cael dod i mewn i ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf, na gadael yr ardal, heb esgus rhesymol, fel teithio i'r gwaith neu i gael addysg
- Dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn cael cwrdd am y tro. Ni chaiff pobl gwrdd ag aelodau o’u haelwyd estynedig o dan do, na ffurfio aelwyd estynedig chwaith
- Bydd yn rhaid i bob eiddo trwyddedig gau am 11pm yn Rhondda Cynon Taf
- Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau o dan do – fel yng ngweddill Cymru.
Byddwn yn parhau i adolygu'r mesurau hyn yn gyson, a chânt eu hadolygu'n ffurfiol mewn pythefnos.