Neidio i'r prif gynnwy
Huw Thomas

Huw Thomas yw Rheolwr Gyfarwyddwr Puffin Produce.

Mae Huw yn fab fferm o Arberth. Dychwelodd i Sir Benfro i redeg Puffin yn 2009, wedi ugain mlynedd mewn swyddi ymchwil a strategaeth sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth ledled y DU. 

Mae Puffin wedi tyfu'n gyflym ond yn gynaliadwy dros y pymtheg mlynedd diwethaf, gyda throsiant yn tyfu o £6m i £50m a nifer y gweithwyr o 50 i 250. 

Mae Puffin bellach wedi sefydlu perthynas gyflenwi hirdymor gydag Asda, Tesco, Aldi, Morrisons, Coop, Spar, Waitrose ac M&S. Mae wedi datblygu'r brand 'Blas Y Tir' y mae siopwyr Cymru yn gyfarwydd ag ef. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Huw wedi helpu i arwain datblygiad Hufenfa Sir Benfro, buddsoddiad cychwynnol o £20m mewn cyfleuster potelu llaeth achrededig BRC, sydd hefyd wedi'i leoli yn Hwlffordd. Nod y ddau fusnes yw sefydlu cadwyni cyflenwi teg, tryloyw ac effeithlon. 

Cyflawnir hyn drwy:

  • ddatblygu partneriaethau cryf gyda'r prif fanwerthwyr
  • buddsoddi mewn effeithlonrwydd blaengar trwy awtomeiddio ffatrioedd
  • tra'n datblygu cytundebau ffermwyr sefydlog a theg ar yr un pryd sy'n annog buddsoddiad effeithlon a chynaliadwy ar ffermydd.