Prentisiaethau: Stori Jake
Prentis yn dod â chwa o awyr iach i gwmni tyrbinau gwynt.
Mae gŵr ifanc uchelgeisiol 20 mlwydd oed yn annog pobl sydd yn gadael ysgol i ystyried prentisiaethau fel llwybr carlam ar gyfer eu gyrfa.
Mae Jake Carey, prentis peirianneg ynni gwynt, yn dilyn ôl traed ei deulu drwy hyfforddi i weithio ar dyrbinau gwynt, ffynhonnell ynni adnewyddadwy fwyaf Cymru, gan chwarae ei ran wrth fynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd.
Dywedodd:
“Wrth dyfu i fyny yn Llandudno, fedrwch chi ddim peidio â sylwi ar y tyrbinau gwynt wrth gerdded ar hyd glan y môr, ond wnes i fyth ddychmygu y byddwn yn un o’r ychydig rai sydd yn hwylio allan ac yn gweithio arnyn nhw!
“Rwy’n credu y gallwn i’n hawdd fod wedi bod yn un o’r bobl hynny sydd yn mynd i banig wrth feddwl am beth mae am ei wneud ar ôl gadael yr ysgol, a chopïo llwybr gyrfa ei ffrind yn awtomatig.
“Fodd bynnag, roedd gen i ddiddordeb mewn peirianneg, electroneg a gwyddoniaeth erioed, ond yn yr ysgol doedd dim cyfle i'w hastudio mewn mwy o fanylder. Cefais fy annog a’m hysbrydoli gan fy ewythr i feddwl am brentisiaeth fel ffordd dda o ddysgu mwy a chael troed i mewn i’r sector STEM.
“Rydw i wrth fy modd gyda phob munud o’r cwrs yng Ngholeg Llandrillo, ac er bod llawer o theori ac elfennau technegol i’w dysgu cyn inni fedru gweithio ar y tyrbinau eu hunain, mi wn y byddaf yn rhoi’r holl theori ar waith yn ymarferol cyn gynted â bod hynny’n ddiogel.
Rydw i hefyd wedi gallu dysgu gan fecanyddion a pheirianwyr eraill sydd wedi bod wrthi’n gwneud y gwaith am flynyddoedd, ac maen nhw wedi bod yn fentoriaid anhygoel imi ar hyd y daith.
Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth
P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.