Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Heddiw rwy’n cyhoeddi buddsoddiad yn ein heconomi wledig gwerth dros £106 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn cynnwys amrediad o gynlluniau a fydd yn ategu nifer o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru:
- Creu ac adfer coetir – gwaith sy’n allweddol wrth fynd i’r afael a newid yn y hinsawdd.
- Sicrhau bod ein hadnoddau naturiol yn gadarn a gwella bioamrywiaeth – pethau y mae ein llesiant ac ansawdd bywyd yn seiliedig arnynt.
- Helpu busnesau ffermio i wella eu perfformiad technegol ac amgylcheddol, gan sicrhau eu bod yn fwy cynaliadwy.
- Cefnogi busnesau bwyd, gan gynnwys canolbwyntio ar wella cynhyrchiant busnesau a’r gadwyn gyflenwi a gwella cadernid busnesau, a chyflawni strategaeth y sector bwyd a diod ar gyfer adfer o COVID-19.
Mae pandemig COVID-19 wedi bod yn ergyd drom i lawer o rannau o’r economi wledig. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r effeithiau hyn, a dyma pam rydym yn gwneud y buddsoddiad sylweddol hwn. Wrth ystyried y ffordd rydym yn dyrannu’r cyllid hwn, rwyf wedi canolbwyntio ar y blaenoriaethau tymor hir a amlinellir uchod. Rwyf hefyd yn glir bod rhaid i’r buddsoddiad hwn ategu adferiad gwyrdd yng Nghymru sy’n diogelu’r amgylchedd ac yn galluogi ein heconomi wledig i ffynnu.
Mae rhestr lawn o’r cynlluniau a fydd yn cael eu hariannu wedi’i hatodi i’r Datganiad hwn.
Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu hariannu drwy gyfuniad o Raglen Datblygu Gwledig yr UE 2014–2020 (RDP) a chronfeydd sy’n gwbl ddomestig. Mae £53 miliwn o gyllid ar gael drwy’r RDP, a chan ein bod yn gwybod na fydd y rhan fwyaf o’r prosiectau sy’n rhan o’r rhaglen yn gwario’r holl arian sydd ar gael iddynt, byddwn yn ehangu’r rhaglen i sicrhau ein bod yn defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael inni wrth inni symud i gymorth gwledig o gronfeydd cwbl ddomestig yn y dyfodol.
Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar yr holl adnoddau sydd ar gael i Gymru drwy gyllid Ewropeaidd. Gweir hyn mewn perthynas â’r Rhaglen Datblygu Gwledig o ganlyniad i’r ymrwymiad hwn.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu aelodau. Os bydd aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb unrhyw gwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd byddaf yn hapus i wneud hynny.