Neidio i'r prif gynnwy

Sut i leisio pryder am eich gofal neu driniaeth ar y GIG.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Os oes gennych bryderon am eich gofal neu driniaeth, siaradwch â’r staff sy'n rhan o'ch gofal neu driniaeth cyn gynted â phosibl. Byddant yn ceisio datrys eich pryderon ar unwaith.

Os nad yw hyn o gymorth, neu os nad ydych chi eisiau siarad â'r staff, gallwch gysylltu â thîm cwynion y bwrdd neu'r ymddiriedolaeth iechyd.

‘Gweithio i Wella’ yw enw'r proses GIG Cymru ar gyfer codi pryderon neu gwynion.

Pryderon am wasanaethau a gawsoch gan feddyg teulu, deintydd, fferyllydd neu optegydd

Dylech ofyn i’r practis ystyried y mater ar eich rhan. Os yw’n well gennych, fodd bynnag, gallwch ofyn i dîm cwynion eich bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth iechyd wneud hynny.

Lleisio pryder drwy dîm cwynion eich bwrdd neu ymddiriedolaeth iechyd

Gallwch leisio’r pryder eich hun neu ofyn i ofalwr, cyfaill neu berthynas eich cynrychioli, ond bydd gofyn ichi roi caniatâd ysgrifenedig ar gyfer hyn.

Cysylltwch â'r tîm cwynion yn ardal eich bwrdd iechyd:

Byrddau iechyd lleol

Ymddiriedolaethau GIG Cymru

Awdurdodau iechyd arbennig

Pan fyddwch wedi lleisio eich pryder, bydd y tîm cwynion:

  • yn gwrando ar eich pryderon i geisio eu datrys cyn gynted â phosibl
  • yn ymchwilio i'ch pryderon ac yn siarad gyda'r staff fu'n ymwneud â'ch gofal neu driniaeth
  • yn cynnig cyfarfod i chi, o bosibl, i drafod eich pryderon
  • yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r person cywir i’ch helpu
  • yn rhoi gwybod i chi beth y maent wedi'i ddarganfod a'r hyn y maent yn bwriadu ei wneud

Dylai'r tîm cwynion ymateb i chi o fewn 30 diwrnod gwaith o dderbyn eich pryder. Os nad oes modd iddynt ymateb o fewn y cyfnod hwnnw, byddant yn egluro pam ac yn eich hysbysu pryd y gallwch ddisgwyl ymateb. Efallai y bydd angen mwy o amser i ymchwilio i rai pryderon.

Beth i’w wneud os nad ydych yn fodlon â’r ymateb a gewch

Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth iechyd, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

1 Ffordd yr Hen Gae Pencoed CF35 5LJ

Rhif ffôn: 0300 790 0203 (Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg)

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Terfyn amser ar gyfer lleisio pryderon neu gwynion

Cewch hyd at 12 mis i leisio pryder neu gŵyn. Fodd bynnag, mae'n well siarad â rhywun cyn gynted â phosibl.

Os yw'n fwy na 12 mis a bod rhesymau da dros yr oedi, mae'n bosibl y bydd y tîm cwynion yn dal i allu delio â'ch pryder neu gŵyn.

Cymorth

Mae Llais yn gorff annibynnol sy’n darparu eiriolaeth a chymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer cwynion.

Llais

Trydydd llawr
33-35 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9HB

Rhif ffôn: 02920 235558

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Gwybodaeth neu ohebiaeth mewn fformat arall

Mae fformatau eraill ar gael gan gynnwys:

  • hawdd ei ddarllen
  • print bras
  • fersiwn plant

Mae fersiynau ieithoedd tramor hefyd ar gael.

Dywedwch wrth y tîm pryderon neu'r practis os oes angen gwybodaeth neu gyfathrebu arnoch mewn fformat gwahanol.